Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Gymorth Covid-19 Shotton

Published: 16/07/2021

Flintshire together.jpgMae Cyngor Sir Y Fflint, ynghyd â phartneriaid, yn agor Canolfan Gymorth Covid yn Shotton.

Mae’r ganolfan yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar ddydd Llun, 19 Gorffennaf o 9am-12.30pm yn Eglwys Rivertown, Ffordd Caer y Gorllewin, CH5 1BX Shotton ac ar agor i holl breswylwyr Sir y Fflint. 

Bydd y ganolfan ar agor bob dydd Llun, Mercher a Gwener 9am-12.30pm.

Gallwch alw heibio i gasglu eich prawf llif unffordd am ddim a bydd nifer o asiantaethau a sefydliadau wrth law i gynnig cyngor a chymorth ar y materion canlynol: 

• Iechyd meddwl 

• Eich cyllid 

• Tanwydd a gwresogi aelwyd

• Cyngor ar fwyd 

• Cymorth gyda defnyddio’r we

Ein nod yw agor canolfannau tebyg mewn ardaloedd eraill o Sir y Fflint yn y dyfodol.