Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau yng Nghymru o 17 Gorffennaf

Published: 16/07/2021

Flintshire together.jpgYng Nghymru, bydd rhai newidiadau yn dod i rym ar 17 Gorffennaf, a bydd hyn yn golygu y gall hyd at chwech o bobl gwrdd tu mewn i gartrefi preifat a llety gwyliau.

Ni fydd unrhyw newidiadau yn y rheolau o ran masgiau wyneb yng Nghymru am y tro.

Mae hyn yn wahanol i Loegr, lle na fydd unrhyw gyfyngiadau ar y nifer o bobl all gyfarfod tu mewn ac ni fydd masgiau wyneb bellach yn orfodol – o 19 Gorffennaf.

Yng Nghymru, gall ddigwyddiadau trefnedig gael eu cynnal ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn eistedd a hyd at 200 yn sefyll, a bydd lloriau sglefrio yn gallu ailagor.

Mae clybiau nos yng Nghymru yn parhau i fod ar gau am y tro.

Newidiadau arfaethedig yng Nghymru o 7 Awst

Os fydd popeth yn mynd rhagddo’n dda, bydd Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 0 o 7 Awst, pan fydd holl eiddo yn gallu ailagor (gan gynnwys clybiau nos) a bydd mwyafrif – ond nid holl – gyfyngiadau yn cael eu codi.

 

Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar y nifer o bobl all gyfarfod tu mewn, gan gynnwys mewn cartrefi preifat. Fodd bynnag, bydd gwisgo masg wyneb tu mewn i siopau a gofodau cyhoeddus eraill dan do, oni bai am leoliadau lletygarwch megis tafarndai a bwytai, yn ofyniad cyfreithiol.

Efallai bydd angen i rai lleoliadau gyfyngu ar niferoedd, yn seiliedig ar asesiadau risg y bydd angen i holl leoliadau gyflawni.

Parchwch y gwahaniaethau

Mewn datganiad ar y cyd, mae Cynghorau Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn galw ar breswylwyr i fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau:

“Mae’r newidiadau o ran cyfyngiadau yn dilyn llwyddiant y rhaglen frechu, sydd wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol a mynd i’r ysbyty yng Nghymru a Lloegr.  Diolch i’r brechlyn, mae’r nifer o bobl sy’n mynd yn ddifrifol wael neu yn yr ysbyty yn parhau i fod yn isel ar hyn o bryd.

“Fodd bynnag, mae’r amrywiolyn Delta yn parhau i ledaenu ac mae’r feirws yn parhau i beri perygl difrifol i iechyd. Rydym hefyd yn gweld pobl ifanc a ffit yn dioddef o effeithiau Covid hir, sy’n cael effaith mawr ar eu bywydau.

“Gofynnir i bawb sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Chymru, barchu’r gwahaniaethau o ran cyfyngiadau rhwng Lloegr a Chymru, ac i lynu at y rheoliadau sydd mewn lle.

“Gofynnir i ymwelwyr sy’n dod i Gymru barchu staff sy’n gweithio yn y diwydiannau twristiaeth, lletygarwch a hamdden, sydd oll yn cyfrannu i wneud eu gorau i ofalu am iechyd a lles y rhai maent yn gweithio ar eu cyfer a gyda nhw. Diolch.”