Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu blwyddyn o feicro-ofal

Published: 02/08/2021

care-flintshire-logo.jpgMae blwyddyn wedi mynd heibio ers i ddarparwr meicro-ofal cyntaf erioed Sir y Fflint - Cartrefle Care – gychwyn cynnig gwasanaethau gofal personol i un cleient.   

Ers hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth gyda thîm meicro-ofal Sir y Fflint wedi cefnogi 20 o ddarparwyr meicro-ofal eraill i gychwyn arni – a phob un yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau drwy ardaloedd canolog a gwledig Sir y Fflint.

Mae Meicro-Ofal yn disgrifio busnesau bach iawn sy’n amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy’n cyflogi pump o bobl, sy’n cynnig cefnogaeth neu les hyblyg wedi’u personoli, i bobl ddiamddiffyn, wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn.

Mae’r rhaglen Meicro-Ofal a sefydlwyd gan y Cyngor mewn partneriaeth gyda Chadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru, yn cefnogi ac yn mentora unigolion i ddatblygu eu busnes neu syniad ac yn rhoi gwybodaeth am hyfforddiant, ariannu ac adnoddau eraill sydd ar gael yn ogystal â’u tywys drwy’r deddfau a’r rheoliadau presennol.  Mae hefyd yn rhoi cefnogaeth weithredol i unigolion i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Cartrefle Care yn cael ei redeg gan Christine Garvey.  Ymunodd Christine a’r rhaglen oherwydd, fel y dywedodd:

“Rydw i wedi bod eisiau creu fy musnes gofal fy hun erioed ac mae’r rhaglen meicro-ofal wedi rhoi’r sylfaen orau i mi gychwyn ar y broses. Mae gen i lawer o gefnogaeth gan y Cyngor ac ar ôl cychwyn gweithio gyda fy nefnyddiwr gwasanaeth cyntaf, dechreuais weld manteision bod yn hunan-gyflogedig ac o fewn ychydig o fisoedd roeddwn i’n brysur iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Cyflwynwyd Meicro-Ofal mewn ymateb i brinder cenedlaethol o ofalwyr ac er mwyn bodloni’r galw cynyddol am ofal.  Er mwyn bodloni’r her hon, mae’r Cyngor wedi cyflwyno dull newydd arloesol o gynyddu nifer y gofalwyr sy’n gallu darparu gofal i’n preswylwyr.

“Gall y meicro-ofalwyr hyn ddarparu cefnogaeth neu ofal i rywun sydd wedi ei asesu’n ffurfiol fel bod angen gofal gan yr awdurdod lleol ac fe allan nhw hefyd gynnig ystod o ddatrysiadau gwasanaeth i bobl sy’n awyddus i brynu gwasanaethau gofal neu les yn breifat.”

Ategodd Neil Ayling Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, sylwadau’r Cynghorydd Jones a llongyfarch meicro-ofalwyr Sir y Fflint:

“Gall cychwyn fel busnes meicro-ofal fod yn her ar y gorau.  Ond mae ein meiro-ofalwyr wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad i greu busnes mewn cyfnod o ansicrwydd, ac mae hynny wedi cefnogi unigolion a helpu cymunedau lleol hefyd, yn ogystal â chynorthwyo twf economaidd yn Sir y Fflint.

“Fel awdurdod lleol, mae ein darparwyr gofal, boed y rheiny’n asiantaethau gofal, gwasanaethau preswyl neu gynorthwywyr personol wedi gwneud gwaith gwych yn ystod y cyfnod heriol hwn ac mae meicro-ofalwyr wedi gwella’r ddarpariaeth hon ymhellach. Credaf fod y rhaglen meicro-ofal wedi llwyddo i gael canlyniadau da yn barod i’n dinasyddion ac wedi cynnig llwybrau i bobl ddatblygu busnesau llwyddiannus a chynaliadwy.” 

Mae tîm datblygu meicro-ofal Sir y Fflint yn awyddus i annog a chefnogi pobl ar draws y Sir i fod yn feicro-ofalwyr. Gall unrhyw un ddod yn feicro-ofalwr, felly os oes gennych ddiddordeb mewn darparu gwasanaethau gofal, a’ch bod eisoes wrthi’n cefnogi pobl yn eu cymunedau lleol ond eisiau gwneud mwy er mwyn cynorthwyo eraill a gwneud gwahaniaeth, edrychwch ar CareatFlintshire.co.uk am fwy o fanylion.