Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Strategaeth Maes Parcio

Published: 10/06/2016

Yn ei gyfarfod ar ddydd Mercher 15 Mehefin bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffur Amgylchedd yn ystyried canlyniadau adolygiad o Strategaeth Maes Parcio’r Cyngor oedd, pan gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Ebrill 2015, yn cynnwys argymhelliad i gynnal adolygiad blwyddyn ar ôl ei chyflwyno. Maer adolygiad hwn bellach wedi cael ei gynnal ac mae barn trigolion, busnesau a sefydliadau cyhoeddus wedi cael ei hystyried. O ganlyniad ir adborth a dderbyniwyd, mae nifer o newidiadau yn cael eu cynnig: Yn dilyn y cynllun peilot yn Nhreffynnon, trwyddedau parcio i gael eu cyflwyno i fusnesau a thrigolion sydd wediu lleoli agosaf i faes parcio arhosiad byr. Bydd cost y drwydded yr un fath ag ar gyfer maes parcio arhosiad hir. Mae nifer y trwyddedau a roddir i gael eu capio ar 20% or lleoedd sydd ar gael yn gyffredinol gan adael digon o le ar gyfer siopwyr ac ymwelwyr. Ar gais Fforwm Masnach Tref neu Gyngor Tref unigol tocynnau dwbl i gael eu cyflwyno. Peiriannau tocynnau yn yr ardaloedd hyn i gael eu ffurfweddu i gynhyrchu dau docyn wrth dalur tariff cywir. Un tocyn i gael ei arddangos yn y cerbyd ar llall i gael ei ddefnyddio i gael ad-daliad gan fusnesau syn cymryd rhan. Mae rhestr o fusnesau syn cynnig ad-daliadau i gael eu harddangos yn glir ym mhob maes parcio. Rhoi cyfle i fusnesau lleol hysbysebu ar gefn y tocyn parcio. Mae lefelau defnydd ymhob un or meysydd parcio i gael eu monitro au hadolygu i ddilysur dosbarthiadau arhosiad byr neu hir cyfredol. Monitro’r defnydd o lefydd parcio i’r anabl i sicrhau bod darpariaeth yn briodol ac yn ddigonol. Yn yr un modd bydd yna adolygiad o lefydd beic modur. Adolygiad o arwyddion ym mhob maes parcio i gael ei wneud i sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth glir am yr angen i dalu a thariffau perthnasol. Y nifer o beiriannau tocynnau ar gael ym mhob lleoliad hefyd i gael eu hadolygu. Adolygiad o argaeledd lle parcio arhosiad byr ar y stryd yn yr ardaloedd o amgylch bob tref i gael ei wneud, os yn bosibl, i ddarparu rhywfaint o le parcio arhosiad byr am ddim ar gyfer ymweliadau cyflym i ganol y trefi. Rhoddir ystyriaeth hefyd ir posibilrwydd o ganiatáu i lefydd parcio i’r anabl fod yn ddefnydd deuol, gan alluogi gyrwyr sydd â phlant bach i barcio yn y lleoedd gwag mewn rhai meysydd parcio. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Maer tariffau mae pobl yn ei dalu i barcio yn cael eu defnyddio i gynnal a gwella cyfleusterau parcio. Mae rhannu’r costau rhwng holl ddefnyddwyr y maes parcio yn helpu’r Cyngor i amddiffyn gwasanaethau hanfodol eraill, megis gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, sydd dan fygythiad o ostyngiadau cyllideb parhaus. “Mae meysydd parcio talu ac arddangos yma i aros yn Sir y Fflint, fodd bynnag, maen bwysig ein bod yn casglu ac yn gwrando ar yr adborth a gawn fel y gallwn wella profiad defnyddwyr y maes parcio a busnesau lleol. Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno ir Cabinet ar 21 Mehefin.