Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint ar y brig unwaith eto

Published: 13/06/2016

Am yr ail flwyddyn yn olynol mae gan Gyngor Sir y Fflint y nifer lleiaf o gyn-fyfyrwyr ysgol uwchradd nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar gan Gyrfa Cymru yn dangos mai dim ond 1.3% o ddysgwyr a gwblhaodd Blwyddyn 11 yn 2015 sydd yn NEET. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn ganlyniad ardderchog ac mae wedi cael ei gyflawni drwy’r gwaith partneriaeth rhwng ysgolion, addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith, y trydydd sector a Gwasanaethau Addysg a Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint.”