Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu swyddogaethau gweinyddol corfforaethol

Published: 16/06/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithion galed i leihau costau biwrocratiaeth a chefnogaeth weinyddol drwy adolygiad oi swyddogaethau gweinyddol corfforaethol sydd hyd yn hyn wedi gwireddu arbedion o tua £1m. Bydd cam terfynol yr adolygiad yn gweld un tîm newydd yn cael ei greu yn cymryd cyfrifoldeb am ystod o swyddogaethau gweinyddol megis ymholiadau cwsmeriaid a cheisiadau am wasanaeth, Derbynfa, cynnal a chadw cronfeydd data gwybodaeth syn seiliedig ar wasanaeth, trefnu hyfforddiant a chefnogaeth, gwasanaethau cyfieithu a swyddogaethau cefnogi swyddfa cyffredinol. Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: Maer cyngor wedi bod yn gweithio am rai blynyddoedd i newid ei brosesau a’i strwythurau er mwyn lleihau biwrocratiaeth a chostau swyddfa gefn. Maer adolygiad hwn wedi ei gynllunio o amgylch anghenion y Cyngor yn awr ac yn y dyfodol, gan gydnabod bod angen addasu ac ail-lunio swyddogaethau cefnogi craidd ochr yn ochr â strategaeth ariannol tymor canolig ehangach y Cyngor. Mae hon wedi bod yn broses drylwyr a theg gan gydbwyso arbedion ac effeithlonrwydd angenrheidiol mewn gwasanaethau cefnogi a oedd angen cael eu cyflwyno i helpu i gynnal gwasanaethau rheng flaen hanfodol ir cyhoedd tran diogelu cymaint o swyddi ag y bo modd. Byddwn yn monitro effaith y newidiadau hyn dros y 12 mis nesaf gydar bwriad o nodi arbedion posibl pellach. Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar gynnydd yr adolygiad gweinyddol corfforaethol mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Mehefin.