Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hyder yn yr hyn rydym yn ei fwyta

Published: 16/06/2016

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2016-17 y sir pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Mehefin. Maer cynllun wedi cael ei gynhyrchu gan swyddogion o’r Tîm Diogelwch Bwyd a Safonau ac maen nodi sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol hon a hefyd yn adolygu perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Maer Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn cwmpasu diogelwch bwyd (gorfodi diogelwch bwyd a deddfwriaeth hylendid bwyd yn yr holl sefydliadau bwyd yn y sir, safonau bwyd (gwirio sefydliadau ac ymdrin â chwynion) a bwydo (ymweliadau i safleoedd bwydo, yn darparu gwybodaeth a delio â chwynion). Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd: Drwy gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd eleni, bydd y Cabinet yn sicrhau bod y safonau diogelwch bwyd uchel a hylendid a sefydlwyd eisoes o fewn y sir yn parhau. Mae ein tîm Diogelwch Bwyd a Safonau yn gweithion hynod o galed i sicrhau y gall trigolion Sir y Fflint fod yn hyderus o lefel uchel o hylendid pan mae bwyd dan sylw. Maer Cynllun yn dilyn yr egwyddor fferm i fforc i sicrhau bod bwyd yn ddiogel iw fwyta.