Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint yn cefnogi ymchwil iechyd Cymru

Published: 21/06/2016

Yn ystod mis Mai a mis Mehefin, mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, gydag arolwg cenedlaethol yn edrych ar brofiadau pobl hyn o gael mynediad i wasanaethau Meddyg Teulu. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae llawer o bobl hyn wedi rhannu eu profiadau cadarnhaol ond mae eraill wedi tynnu sylw at yr heriau maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad ac wrth ddefnyddio gwasanaethau meddyg teulu. Bydd hyn yn helpu i nodi meysydd lle y mae angen gwelliannau. “Mae lleisiau a phrofiadau pobl hyn syn byw yn Sir y Fflint yn cael eu casglu drwy holiadur byr a fydd yn cael ei ddychwelyd i Sarah lle y bydd hi ai thîm yn dechrau casglur wybodaeth genedlaethol cyn cyhoeddi eu hadroddiad yn gynnar y flwyddyn nesaf. Gan weithio mewn partneriaeth gydag Ella Jackson, gweithiwr ymgysylltu Owl Cymru ar gyfer pobl hyn a Chynghorwyr Tref a Sir o Greenfield, mae Vera Davey, swyddog arweiniol ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint wedi bod yn ymweld â chlybiau cinio, boreau coffi a grwpiau cymdeithasol i gefnogi pobl hyn gyda’r arolwg hwn. Meddai: “Mae Cymunedau yn Gyntaf yn hapus iawn i gefnogi prosiect ymchwil gwerthfawr or fath ac o fod yn gallu gweithio ar hyn gydar trigolion hyn syn byw yn ein hardaloedd. Rydym yn edrych ymlaen at fwydo canlyniadaur arolwg i grwpiau ac unigolion syn cymryd rhan pan gânt eu cyhoeddi yn gynnar y flwyddyn nesaf.” Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Vera Davey ar veraadavey@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352705932. Gellir cysylltu â Chomisiynydd Pobl Hyn Cymru yn ask@olderpeoplewales.com. Kath Oliver, 70, Mavis Jones, 74, Gwyneth Hall, 91 and Freda Levell, 80.