Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfraddau casglu Treth y Cyngor

Published: 22/06/2016

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth ei drigolion, ywr Cyngor syn perfformio orau o ran casglu Treth y Cyngor. Yn y flwyddyn ariannol 2015-16, casglodd y Cyngor 98.0% o Dreth y Cyngor dyledus yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn 0.8%, sy’n uwch nar cyfartaledd cenedlaethol o 97.2%. Mae hyn yn golygu mai Sir y Fflint yw’r Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru. Y ffigwr casglu hwn yw hefyd y lefel casglu uchaf a gyflawnwyd gan Sir y Fflint ers y cyflwynwyd Treth y Cyngor. Mae hefyd yn dangos, er gwaethaf yr heriau ariannol a wynebir gan y Cyngor i reoli gostyngiadau mawr yn y grantiau a dderbyniwyd gan y Llywodraeth Ganolog, rydym yn parhau i wellar ffordd rydym yn gweithredu, trwy ei gwneud yn haws i drigolion dalu eu biliau a chael mynediad in gwasanaethau. Er enghraifft, mae dros 86% o drigolion Sir y Fflint yn talu eu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol misol neu wythnosol. Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Fel rhan or Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, maer Cyngor yn gweithion ddiflino i ateb yr heriau ariannol ac rydym yn parhau i amlinellu cynlluniau a datrysiadau i ymdopi gyda llai o adnoddau. I gwrdd â phwysau o ran costau yn y dyfodol, mae casglu Treth y Cyngor yn effeithiol mor bwysig i gyllid y Cyngor, felly maen newyddion da i weld mai Sir y Fflint ywr Cyngor sy’n perfformio orau pan ddaw i gasglu trethi lleol. “Rydym ni hefyd yn cydnabod y gall rhai teuluoedd ei chael hi’n anodd talu, ac rydym nin annog unrhyw un syn cael trafferth talu i gysylltu’n gynnar â’r Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 fel y gallwn ni ddarparu cymorth ac arweiniad ymarferol ar y ffordd orau o dalu”.