Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Maen amser Jambori Gorffennaf!

Published: 05/07/2016

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Tîm Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint eu sioe gerdd Jambori pedwar diwrnod ar gyfer plant Blwyddyn 1 a 2. Roedd tua 2,500 o blant Sir y Fflint yn bresennol yn ystod y pedwar diwrnod a chomisiynwyd y cyflwynydd S4C a’r diddanwr Martyn Geraint i lwyfannu wyth perfformiad. Cynhaliwyd y Jambori yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, ac fe hoffai’r tîm ddiolch i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth barhaus. Dechreuodd y paratoadau yn gynnar ym mis Mehefin, a bu’r plant yn brysur yn dysgu caneuon er mwyn iddynt allu canu’n Gymraeg gyda Martyn Geraint. Derbyniodd pob ysgol CD or caneuon. Mae Martyn Geraint wedi meithrin enw da fel un o ddiddanwyr mwyaf blaenllaw Cymru gyda gallu naturiol i ysbrydoli plant. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Maer digwyddiad hwn bob amser yn gyfle gwych i gael ychydig o hwyl wrth wella sgiliau iaith y plant. Mae defnyddio cerddoriaeth fel arf dysgu yn brofiad positif iawn ar gyfer y plant ac mae’n ychwanegu dimensiwn ychwanegol at eu gwersi Cymraeg.”