Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau pen-blwydd yn 100 oed!

Published: 23/06/2016

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu dau o drigolion Sir y Fflint i ddathlu pen-blwydd arbennig trwy ymweld â hwy dydd Iau 16 Mehefin. Ganwyd Mrs Gwen Prior ar 7 Mehefin 1916 yn Queensferry ac astudiodd ei thad yn Eaton. Bu Mrs. Prior yn gweithio yn Courtaulds, yna gweithiodd yn John Summer yn ystod y rhyfel ac roedd ei gwr dramor. Roedd hin briod â Bob Prior a oedd yn y llu awyr a bu’n gweithio dramor am flynyddoedd lawer. Mae ganddi ddau o blant, Norma a Valerie, pedwar o wyrion a gor-wyr. Roedd hin arfer mwynhau gwau, mae hi wrth ei bodd yn darllen a phan oedd hi’n iau roedd hi wrth ei bodd yn mynd i’r arfordir gydai gwr. Ganwyd Mrs Lily Hutchinson ar 16 Mehefin 1916 ym Mwcle, yn un o bump o blant, a chafodd blentyndod hapus yn byw ac yn chwarae gyda ffrindiau yn y trap. Bun gweithio yn ffatri Courtaulds a chyfarfu â’i gwr, George Hutchinson. Priododd y ddau ym 1940 a chafodd dri o blant, George Phillip, Dennis a Malcolm. Yn anffodus bu farw George Phillip yn ystod babandod a bu farw Malcolm yn 2009. Dennis ywr Cynghorydd Sir dros Pentrobin Bwcle. Mae ganddi bum wyrion a deg o or-wyrion. Mae Lily yn deyrngarwr mawr ac wedi bod yn gefnogwr mawr or Frenhines ar fam Frenhines ar hyd ei hoes. Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis, ai wraig ai Gydymaith, Jenny, gyda Gwen Prior Or chwith ir dde: Maer Bwcle, Cynghorydd Andrew Williams, Mrs. Jeanne Hutchinson (gwraig Dennis), Mrs. Jennifer Curtis, Consort Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Dennis Hutchinson (yn penlinio wrth ymyl Mrs Lily Hutchinson) a Mrs. Joan Hutchinson (gwraig Malcolm).