Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau ar gyfer pen-blwydd Caroline yn 100 oed!

Published: 27/06/2016

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion Sir y Fflint i ddathlu pen-blwydd arbennig. Dathlodd Caroline Bellis ei phen-blwydd yn 100 oed yng Nghartref Gofal Marleyfield, Bwcle ar 20 Mehefin a daeth y Cynghorydd Peter Curtis a Mrs Curtis i ymweld â hi. Daeth teulu a ffrindiau i barti mawr gyda chôr â 40 aelod i nodir achlysur. Daeth Mrs Bellis i fyw yn yr Wyddgrug yn ifanc iawn. Roedd ganddi un chwaer ac un brawd. Priododd Ted ar ddiwrnod Gwyl San Steffan yn 1939 yn 23 oed. Mae ganddi ddwy ferch, Moira a Jean. Roedd ei gwr Ted yn y Llu Awyr Brenhinol a phan aeth ef i ffwrdd yn y rhyfel, roedd Caroline yn byw gydai theulu yng nghyfraith a bun gweithio yn y Ffatri Arfau yn Rhydymwyn. Derbyniodd ei gwr BEM yn 64 mlwydd oed, ar ôl 34 mlynedd gydar Gwasanaeth Ambiwlans. Bu farw yn 80 oed. Yn ddiweddarach aeth Caroline i weithio yn Ysgol Bryn Gwalia fel cynorthwyydd cinio ysgol a bu’n gweithio yno nes iddi ymddeol. Y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis a’r Consort, Mrs Jennifer Curtis gyda Caroline Bellis.