Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


2016- y frwydr yn erbyn y ffromlys yn parhau

Published: 27/06/2016

Ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf, bydd tîm Amgylchedd a Chadwraeth Cyngor Sir y Fflint yn lansio eu tymor blynyddol i reoli’r ffromlys yng nghae chwaraeon Leadmills yn yr Wyddgrug. Mae’n rhan o brosiect hir dymor i fynd i’r afael â’r planhigyn nad yw’n gynhenid, y Ffromlys Chwarennog. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae’r prosiect wedi uno pobl o gymunedau lleol, grwpiau cadwraeth, a chlybiau pysgota ynghyd mewn ymdrech fawr i glirio glannau Afon Alun. Rydym wedi llwyddo i glirio oddeutu 20km o’r ffynhonnell ac yn awr rydym angen i’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y planhigyn i lawr yr afon yn yr Wyddgrug i ymuno â ni yn y frwydr. Dyma rai o’r manteision: · Adennill y tir ger yr afon · Atal erydiad y gaeaf ar lannau’r afon, pan fydd y Ffromlys Chwarennog yn gwywo · Darparu cyfleoedd i’n blodau gwyllt cynhenid dyfu · Gwellar amrywiaeth o lystyfiant ar lannau’r afon, sy’n gymorth i’n bywyd gwyllt cynhenid. Dywedodd Sarah Slater, trefnydd y digwyddiad a Swyddog Bioamrywiaeth Sir y Fflint: “Mae hwn yn ddigwyddiad gwych y gall y teulu cyfan ei fwynhau, maen gwbl hyblyg felly mae modd i chi alw draw am faint bynnag yr hoffech rhwng 10am a 12pm ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf. Yn gyffredinol mae pobl yn mwynhau. Byddwn yn gweithio ar hyd darn Leadmills o Afon Alun, felly mae’n ddarn hyfryd o’r afon a byddwn yn gallu gweld ein cynnydd. “Tynnu’r ffromlys yw’r dull gorau o reoli’r rhan hon o’r afon gan ei fod yn aml ymhlith planhigion eraill, felly gallwn ei dynnu heb glirior llystyfiant arall oddi ar lannaur afon syn beth da gan ein bod yn gwybod bod dyfrgwn yn defnyddio ardal hon o’r afon ac maent yn hoffi’r cysgod ger yr afon.” Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth am y prosiect neu’r digwyddiad, cysylltwch â Sarah Slater, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint 01352 703263, sarah.slater@flintshire.gov.uk Cynhelir y digwyddiad ar 2 Gorffennaf rhwng 10am a 12pm yng nghae chwaraeon Leadmills, Heol y Brenin, CH7 1LG yn yr Wyddgrug.