Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc yn cael cerfiadau tywodfaen newydd

Published: 30/06/2016

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, busnesau lleol, clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr wedi dod ynghyd i ariannu cerfiadau tywodfaen newydd ym Mharc Gwepra. Mae’r 8 cerfiad yn darlunio dail o goed sydd i’w gweld yn y parc, ac maent yn costio £300 yr un i’w gwneud au gosod. Maent nawr yn ffurfio llwybr ‘gwyllt- ddail’ yn ardal chwarae’r parc. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Gwych yw bod Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi gallu casglu’r arian i noddi 8 o’r cerfiadau hyn gan fusnesau a chlybiau lleol. Fel cynrychiolydd ar ran y Cyngor ac un o’r noddwyr hefyd, FC Nomads, hoffwn annog pawb i ddod am dro i’r parc i weld yr ychwanegiadau trawiadol diweddar.” Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Cefn Gwlad i Gyngor Sir y Fflint: “Roeddem wedi llwyddo i gael cyllid gan saith ffynhonnell leol wahanol a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cefnogaeth. Bydd y cerfiadau tywodfaen hyn o ddail yn galluogi plant i weld y dail yn agos ac yn fanwl, a gobeithio y bydd hyn yn eu hannog i anturio drwyr lle chwarae a’r parc yn gyffredinol.” Mae gan bob cerfiad noddwr penodol: Y Contractwr Gwaith Daear a Ffensio, Arwyn Parry; FC Nomads; Old Hall Café; Cyfeillion Parc Gwepra; Garnett-Hughes; Gwely a Brecwast Oakenholt Farm a Chontractwyr Gwaith Daear a Ffeiriau Bach Sharland Brothers. Noddodd Harry Sharland ail garreg hefyd, er cof am Brian Allsopp a oedd yn un or rhai a sefydlodd Wyl Glannau Dyfrdwy ym Mharc Gwepra, a daeth â chymaint ir ardal a’r gymuned. Bu farw Brian yn 1990 tra roedd yn perfformio ym mharêd yr wyl. Dangosodd astudiaeth ddiweddar, a oedd yn edrych ar gelf yn y parc ac a gomisiynwyd gan Gyfeillion Parc Gwepra a’r Gwasanaeth Cefn Gwlad, fod lle i annog celf o bob math. Gallai hyn ymestyn o gerflun i ddawns a chân a gallai gynrychioli themâu lleol a chenedlaethol. Mae’r prosiect hwn yn gam cychwyn tuag at hynny. O’r chwith i’r dde: Y Cyng. Ian Dunbar, Cyfeillion Parc Gwepra; Les a Jennifer Hulme, Gwely a Brecwast Oakenholt Farm; Marion Lockwood, Old Hall Café; Tim Johnson, Cyngor Sir y Fflint; Mary Caveill, Old Hall Café; Harry Sharland, Sharland Funfairs; Jenny Eccles, Cyfeillion Parc Gwepra ac Arwyn Parry