Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofio Milwyr y Somme

Published: 30/06/2016

Bydd Archifdy Sir y Fflint yn agor arddangosfa i nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme ddydd Gwener, 1 Gorffennaf. Enw’r arddangosfa yw “Milwyr Sir y Fflint ar y Somme” ac mae’n dangos chwe milwr o Sir y Fflint (hynny yw, Sir y Fflint fel roedd hi yn 1914) a fu farw yn ystod y frwydr. Bydd yr arddangosfa wedyn yn teithio o amgylch y sir a thu hwnt fel hyn: Archifdy Sir y Fflint, yr Hen Reithordy, Penarlâg: 1 Gorffennaf – 25 Awst; Eglwys Plwyf Wrddymbre: 26 Awst – 2 Medi; Eglwys Plwyf y Rhyl: 5 – 11 Medi; Eglwys Plwyf Bwcle: 12 – 19 Medi; Eglwys Plwyf Ffynnongroyw: 20 – 29 Medi; Llyfrgell y Fflint: 1—31 Hydref; Neuadd y Sir, yr Wyddgrug: 4 – 18 Tachwedd. Hoffai Archifdy Sir y Fflint gydnabod cymorth gwefan Cofebion Rhyfel Sir y Fflint wrth greu’r arddangosfa hon. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01244 532364 neu anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk