Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diogel fel y graig

Published: 04/07/2016

I’r rhai ohonoch sydd wedi bod yn y fflint yn ddiweddar, byddech yn sicr o fod wedi sylwi ar drawsnewidiad y Tyrau wrth i’r sgaffaldiau gael eu tynnu. Yn ogystal â gwaith ar y tu allan, mae’r trawsnewidiad hwn yn digwydd y tu mewn i’r adeiladau hefyd, ac maer gwaith hwnnwn dirwyn i ben. Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi bod yn gweithio ar osod system chwistrellu drwy bob un or tri bloc, gan weithion agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’r gwaith, sydd wedi cymryd 8 mis ers ei gychwyn hyd at ei ddiwedd, am gael ei gwblhau mewn 3 wythnos. Maer prosiect cyfan wedi bod yn mynd am dair blynedd ers y broses dendro pan benododd Cyngor Sir y Fflint gwmni Ymarferwyr Diogelwch Cofrestredig (YDC) Sprinklers Wales o Dde Cymru i ymgymryd â’r gwaith. Mae systemau chwistrellu wedi cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yn dilyn cyflwyno rheoliadau adeiladau newydd ym mis Ionawr eleni. Er nad yw hi’n ofynnol gosod system chwistrellu mewn hen adeiladau, mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud mwy nar gofynion drwy osod system chwistrellu ym mhob un o’r 270 fflat (Richard Heights – 84 fflat, Castle Heights – 84 fflat, Bolingbroke Heights – 102 fflat). Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: “Mae systemau chwistrellu wedi’u gosod yn ystafell fyw, cegin, ystafell wely a chyntedd pob fflat, yn ogystal ag yn yr holl ardaloedd cymunedol, gan gynnwys yr islawr. Fel Cyngor, rydym wedi rhagori er mwyn sicrhau bod gan ein preswylwyr dawelwch meddwl a’u bod yn teimlo’n fwy diogel. Gall y cynnydd mewn diogelwch gael effaith bositif ar arbedion mewn yswiriant i’r Cyngor ac i’n preswylwyr.” Dywedodd John Newman, wrth gynrychioli YDC Sprinklers Wales: “Roedd hi’n bleser gan Residential Sprinklers dderbyn y contract hwn gyda Chyngor Sir y Fflint, ac mae wedi bod yn dasg enfawr gosod 7500 metr (4.7 milltir!) o diwbiau a 2070 o chwistrellwyr mewn 8 mis yn unig. Mae’r cyflenwad dwr i’r system chwistrellu wedi cael ei gymryd or cyflenwad domestig wedi gynyddu syn bod eisoes. Mae hyn yn arbed gorfod gosod tanciau a phympiau newydd yn benodol ar gyfer y system chwistrellu, a gan nad ywr system yn cael ei heffeithio gan fwg, dim ond gwres, maer rheolyddion wedi cael eu cysylltu â’r brif system larwm tân er mwyn rhoi’r rhybudd angenrheidiol i’r gwasanaeth tân a ddylai arwain at leihau’r nifer o alwadau ffug. Hoffwn ddiolch i’r preswylwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y gwaith. Dywedodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC): “Rydym yn falch o fod wedi gweithio ar y prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Residential Sprinklers er mwyn darparu llety diogel i breswylwyr y tri bloc twr yn y Fflint. “Mae tystiolaeth glir y gall systemau chwistrellu fod yn effeithiol wrth rwystro tân rhag lledu, gan wella diogelwch tân yn sylweddol a lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol o ganlyniad i dân. Mae synwyryddion mwg yn systemau hynod o barod ac maent yn rhoi gwybod ichi os oes tân, ond bydd system chwistrellu yn rhwystro’r tân rhag lledu a gall ei ddiffodd, a thrwy hynny mae’n amddiffyn y preswylwyr.” Dywedodd Tony Jones, Rheolwr Gwaith Cyfalaf o Gyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn brosiect pwysig i’r tri thwr sy’n diogelu cartrefi ein tenantiaid yn fwy rhag tân fel rhan o’n gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru. Rwy’n hynod o falch o’r modd cydweithredol o weithio gyda GTAGC wrth iddynt ein cynorthwyo ni drwy’r prosiect. Hoffwn, hefyd, ddiolch yn fawr iawn in holl denantiaid am fod yn amyneddgar tra bor holl brosiectau, nid gosod y system chwistrellu’n unig, yn digwydd. Rwy’n gwerthfawrogi hynny’n fawr.”