Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Kingdom yn dechrau camau gorfodi amgylcheddol

Published: 07/07/2016

Yn dilyn penderfyniad ym mis Mai gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint, mae partner allanol yn dechraur wythnos hon ar gynllun peilot 12 mis i gynorthwyo gyda dyletswyddau gorfodaeth amgylcheddol y Cyngor. Mae troseddau amgylcheddol fel baw cwn a thaflu sbwriel yn parhau i fod yn broblem fawr ac maer materion hyn yn parhau i ddifetha parciau, mannau agored a strydoedd y Sir. Bydd y trefniant newydd yn cynyddu nifer y swyddogion gorfodi sy’n weithgar ar y strydoedd a mannau agored ar unrhyw adeg or wythnos, i gynorthwyo swyddogion gorfodi presennol y Cyngor o ran darparu ymagwedd dim goddefgarwch i drosedd amgylcheddol. Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Rydym yn cyflwyno dull gorfodi dim goddefgarwch fel rhan on proses Cynllunio Busnes yn 2015-16 ac wedi cynnal ymgysylltiad helaeth âr cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth, ymweld â busnesau, yn enwedig mewn canol trefi, a Chynghorau Tref a Chymuned, i roi gwybod iddynt am y trefniadau gorfodi mwy trylwyr newydd. Er gwaethaf ein holl ymdrechion, mae’r broblem o daflu sbwriel a baw cwn yn parhau i fod yn broblem fawr. Mae Gwasanaethau Diogelur Amgylchedd Kingdom yn dechrau gweithio gyda ni’r wythnos hon. Mae ganddynt hanes o lwyddiant wrth gymryd camau gorfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol.” Yn dilyn y trefniant peilot cychwynnol o 12 mis, bydd gwerthusiad llawn o lwyddiant y trefniant yn cael ei wneud, cyn y gellir trefnu contract tymor mwy ac ymrwymiad. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Warchod y Cyhoedd a Gwastraff: “Mae llawer o awdurdodau lleol wedi ffurfio partneriaeth gyda chwmnïau preifat i ychwanegu at eu gweithgareddau gorfodi. Ni fydd y gwasanaeth o unrhyw gost ir Cyngor a bydd yn darparu adenillion o 15% ar yr holl hysbysiadau cosb penodedig a gyflwynir.”