Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yn glud a chynnes

Published: 11/07/2016

Wrth ir sgaffaldiau ddod i lawr oddi amgylch y tri thwr yn y Fflint, mae’r gwaith ar y tu mewn yn dirwyn i ben hefyd, gan nodi oes newydd ar gyfer y blociau twr. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda Warmer Energy Services i ddiweddarur systemau gwresogi yn yr 84 fflat yn Richard Heights ar 102 fflat yn Bolingbroke Heights - cyfanswm o 286. Mae gan y ddau floc yma system wresogi gyffredin sydd bellach wedi cael ei uwchraddio i ymdrin â materion megis costau ynni. Disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn y pythefnos nesaf. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio gyda gwahanol gontractwyr i wella tu mewn a thu allan yr adeiladau a oedd angen eu huwchraddio. Ynghyd âr inswleiddio allanol, bydd uwchraddio’r systemau gwresogi a system dwr poeth yn sicrhau bod y trigolion yn elwa o gartrefi cynhesach ac, o bosibl, yn arbed ar eu biliau gwresogi. “Erbyn hyn mae yna fesuryddion ym mhob fflat, i fod yn barod erbyn pan ddaw deddfwriaeth i rym pan fydd rhaid i bawb dalu’n unigol. Yn ogystal, rydym wedi gosod system iawndal tywydd, felly yn hytrach na’i fod ymlaen yn barhaol, gall ein preswylwyr ddibynnu ar wresogi effeithiol, ynghyd âr inswleiddio newydd, gan sicrhau amgylchedd iach a chysurus.” Meddai Nicola Bennett, Cyfarwyddwr Gweithrediadau o Warmer Energy Services: “Rydym yn hynod falch o fod wedi gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ar y prosiect hwn; rydym wedi gweithio gyda nhw am nifer o flynyddoedd yn gosod systemau gwresogi ar gyfer trigolion lleol ac mae hwn wedi bod yn barhad pwysig or bartneriaeth honno. Rydym wedi mwynhau dod i adnabod y trigolion ac yn credun gryf y bydd y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau yn cael effaith gadarnhaol iawn.” Mae person ifanc sydd yn y coleg ar hyn o bryd wedi gallu dod i gael profiad gwaith yn rhan o’r prosiect hefyd. Mae Callum Bates yn astudio plymio yng Ngholeg Cambria, a thrwy Dîm Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint, llwyddodd i gael lleoliad gwaith un diwrnod yr wythnos gyda Warmer Energy Services, gan weithio ochr yn ochr âu plymwyr a pheirianwyr. Dywedodd Callum: “Mae gallu gweithio gydar bechgyn yn Warmer Energy Services wedi rhoi cipolwg i mi ar sefyllfaoedd gwaith go iawn ac mae ac wedi cynyddu fy ngwybodaeth, profiad a hyder ac rwy’n sicr y bydd o fudd i mi gyda fy ngyrfa yn y dyfodol. Fe hoffwn ddiolch i bawb yn Warmer Energy, ac yn benodol, Tony Jones o Gyngor Sir y Fflint, am fy helpu i gael y lleoliad hwn. Dywedodd, Nik Evans, Rheolwr Gwasanaethau Tai Cyngor Sir y Fflint: “Fe ddaw’r gwaith hanfodol yma ar ôl dymchwel fflatiau deulawr yn safle Leas pan ddaeth yn amlwg nad oedd y gwaith peipiau presennol yn y tyrau addas i’r diben. Maer pibellau wedi cael ei hailgynllunio i gyrraedd safonau heddiw ac mae hyn yn rhan hanfodol on hymrwymiad parhaus i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ym mhob un o’n eiddo erbyn y flwyddyn 2020. Mae gallu cynnig cyfle prentisiaeth i un o drigolion Sir y Fflint wrth i’r gwaith fynd rhagddo yn newyddion gwych a bydd yn ein helpu i ddarparu Mantais Gymunedol drwy’r gwaith rydym yn ymgymryd ag o.”