Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau’n cael budd o geginau newydd

Published: 15/07/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o gontractwyr adeiladu er mwyn cynorthwyo i orffen y gwaith diweddaru sydd angen ei wneud ar ein stoc dai. Mae’r contractwyr yn gweithio ar Safon Ansawdd Tai Cymru sy’n safon genedlaethol ar gyfer cartrefi a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gwaith yn rhoi swyddi a phrentisiaethau i bobl leol. Yn ogystal â hynny mae’n contractwyr wedi bod yn cynorthwyo cymunedau mewn amrywiol ffyrdd. Esiampl o ddarparu mantais gymunedol yn ddiweddar yw bod dau o’n contractwyr wedi ail osod ceginau mewn nifer o ganolfannau cymunedol o fewn y sir. Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae safon y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y lleoliadau hyn yn dda iawn ac yn dangos crefftwaith safonol ar ei orau. Hoffwn ddiolch i’n dau gontractwr, Novus Solutions’ a ‘Keepmoat’ – rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith caled ac rwy’n sicr y bydd y bobl sy’n defnyddio’r canolfannau’n rheolaidd yn hapus iawn gyda’r adnoddau ar eu newydd wedd.” Yn ddiweddar cyfrannodd a gosododd ‘Novus Solutions’ ddwy gegin mewn Canolfannau Cymunedol yn Nhreffynnon – Llwyn Aled A Llwyn Beuno. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio lliwiau gwahanol yn unol â chanllawiau’r RNIB wrth baentio’r ardaloedd cymunedol. Meddai Gary Owen, Rheolwr Gweithrediadau yn ‘Novus’: “Arbenigwyr cynnal a chadw eiddo yw ‘Novus Property Solutions’ a chysylltodd Cyngor Sir y Fflint gyda ni er mwyn gwneud gwaith paentio a llorio yn ardal Treffynnon. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar fod yn fusnes cyfrifol a gweini’r gymuned ehangach. Rydym wedi gosod targed i’n hunain i newid 20,000 bywyd fel rhan o’n hymgyrch Newid Bywydau ac rwy’n hynod falch o fod wedi cyfrannu a gosod y ceginau hyn er budd y gymuned ac i wella’r adnoddau yn y canolfannau”. Mae ‘Keepmoat’, arbenigwyr tai ac adfywio, yn adfywio eiddo er mwyn gwella deilliannau economaidd a chymdeithasol i bobol. Yn ddiweddar fe wnaethant osod cegin newydd yng Nghanolfan Gymunedol Aston. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint ac aelod lleol Aston: “Mae’r Ganolfan Gymunedol yn Aston yn cael ei defnyddio gan sawl grwp gwahanol ac maen ganolbwynt i’r gymuned. Mae diweddaru’r gegin wedi bod yn welliant sylweddol ac mae’r gymuned yn hynod o ddiolchgar i Keepmoat’ am y gwaith gwych maent wedi ei wneud. Meddai Frank Mondino, Cyfarwyddwr Ardal Keepmoat yn y Gogledd Orllewin: “Rydym wrth ein boddau o allu gosod y gegin newydd hon y bydd yr holl gymuned yn elwa ohoni am flynyddoedd i ddod.” Mae rhaglen SATC yn golygu y dylai holl denantiaid Cymru gael y cyfle i fyw mewn cartrefi o safon uchel sy’n cwrdd gofynion y cartref. Mae Tîm Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am uwchraddio mewnol ac allanol i bob eiddo gan y cyngor, gan gydymffurfio â SATC erbyn y flwyddyn 2020. Meddai Tony Jones, Rheolwr Gwaith Cyfalaf: “Dyma enghraifft arall o gontractwyr yn gweithio gyda’n tîm ni er mwyn darparu adnoddau gwell i’r gymuned ehangach. Mae’r ceginau newydd yma’n ychwanegol i’r ceginau yr ydym wedi eu gosod eisoes mewn cymunedau eraill fel Coppa View ym Mwcle, Chapel Court yng Nghei Connah, a Hawksebury ym Mwcle. Mae contract SATC yn ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ddarparu Mantais Gymunedol fel rhan o’u cytundeb.” Cegin Canolfan Gymunedol Llwyn Aled, o’r chwith i’r dde: Gary Owen - Novus, Cyng Peter Curtis, Ffion Smith - Novus, Tony Jones – Rheolwr Gwaith Cyfalaf CSyFf, Jon Jones – Archwiliwr Contractau CSyFf ar Cyng Aaron Shotton.