Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Dinesig y Cadeirydd

Published: 15/07/2016

Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal gwasanaeth dydd Sul Dinesig yn agos at ddechrau blwyddyn newydd y Cyngor, syn dechrau ym mis Mai. Cadeirydd newydd y Cyngor sy’n dewis yr Eglwys. Mae Cadeirydd y Cyngor yn dewis aelod o’r clerigwyr i weithredu fel ‘Caplan y Cadeirydd’ yn ystod eu blwyddyn mewn swydd. Eleni, y Caplan yw’r Tad Roberto Ciardo SDV, offeiriad plwyf yn Eglwys Gatholig Rufeinig St Winefride yn Nhreffynnon. Cynhaliwyd gwasanaeth eleni yn Eglwys St Winefride dydd Sul, 10 Gorffennaf. Mynychodd Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad lleol, yn ogystal ag aelodau o’r cyngor a’r gymuned leol. Ar ôl y gwasanaeth, darparodd Cadeirydd y Cyngor ai gymar lluniaeth i’w gwesteion yng Ngwesty Stamford Gate. Cynghorydd Peter Curtis, cadeirydd Cyngor Sir Y Fflint a’i gymar, Mrs Jenny Curtis, ynghyd â’i gaplan, y Tad Roberto Ciardo a Luigi a gynorthwyodd y Gwasanaeth Dinesig.