Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Ysgolion Iach

Published: 18/07/2016

Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu Cyrhaeddiad blynyddol Ysgolion Iach Sir y Fflint yn ddiweddar yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint, Trefnir y digwyddiad ysbrydoledig hwn sy’n codi’r ysbryd gan y cynllun Ysgolion Iach, sy’n rhan o gyfarwyddiaeth Addysg ac Ieuenctid y Cyngor. Am y tro cyntaf eleni, dathlwyd y digwyddiad ar y cyd â Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint. Mae’r digwyddiad yn cydnabod cyraeddiadau ysgolion ym mhob agwedd ar addysg iechyd a chwaraeon. Daeth disgyblion o ysgolion o bob cwr o’r sir yno i dderbyn eu gwobrau gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell a’r Prif Swyddog dros Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd. Croesawodd Kate Fox-Parry, Cadeirydd Cymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint a Phennaeth Ysgol Cae’r Nant, bawb i’r digwyddiad, oedd yn cynnwys perfformiadau rhagorol o fyd dawns (Ysgol Gatholig y Santes Fair), Codi Hwyl (Ysgol Gynradd Goffa Wood) a gymnasteg (Ysgol Bryn Coch), yn ogystal â chyflwyniad gan eGadetiaid Cornist Park a ddangosodd sut maent yn cadw eu disgyblion, eu staff a’u cymuned leol yn ddiogel ar lein. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Ysgol Cae’r Nant ar beth mae bod yn “Ysgol Iach” ei olygu. Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Curtis Wobrau Ysgolion Iach i ddeg o ysgolion – yn amrywio o Gam 2 i Gam 5 y rhaglen. Meddai’r Cadeirydd: “Mae heddiwn amlygu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd yn ein hysgolion fel rhan o’r ymrwymiad parhaus i’r Cynllun Ysgolion Iach – da iawn i bawb a gymerodd ran.“ Yna cyflwynodd y Cynghorydd Bithell Wobrau Chwaraeon Tîm Sir y Fflint, oedd yn cynnwys amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys rownderi, hoci, athletau, criced, rygbi a phêl-droed. Ysgol Bryn Coch oedd Pencampwyr Athletau Dan Do Ysgolion Mawr, ac maent yn haeddu clod arbennig am mai hwy oedd Pencampwyr Gogledd Cymru gyfan hefyd. Gwobrau mwyaf y bore oedd cyflwyniadau Gwobrau Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach. Llwyddodd tair ysgol, sef Ysgol Cornist Park, Ysgol Gynradd Mountain Lane ac Ysgol Gynradd Southdown, i gael achrediad a chafodd tair ysgol arall eu hailasesu’n llwyddiannus, sef Ysgol Cae’r Nant, Ysgol Gwynedd ac Ysgol Bryn Coch. Derbyniodd yr ysgolion eu gwobrau gan Ian Budd, a ddywedodd: “Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw anrhydedd uchaf y cynllun ac mae’n rhaid i ysgolion gwblhau pum cam cyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer y wobr - gall hyn gymryd cyfartaledd o 10 mlynedd i’w gyflawni! Mae’r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn golygu datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at faterion sy’n effeithio ar iechyd a lles; maent yn cynnwys saith gwahanol thema iechyd, o Iechyd Emosiynol, Bwyd a Ffitrwydd i’r Amgylchedd a Diogelwch. “Llongyfarchiadau enfawr i bob ysgol ar gyflawniad o’r fath! Bellach, mae saith o ysgolion Sir y Fflint wedi ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol, a dim ond 116 sydd wedi ei hennill drwy Gymru gyfan – dyma pam ein bod yn dathlu heddiw!” Ochr yn ochr â’r gwobrau Ysgolion Iach, cafwyd cyflwyniadau arbennig i Osian Jones o Ysgol Glanrafon, a enillodd wobr Campwr Mwyaf Addawol 2016 a Chloe Creedy o Ysgol Santes Gwenffrewi a enillodd wobr y Gampwraig Fwyaf Addawol. Dyfarnwyd gwobr Cyfraniad Arbennig i Chwaraeon yn Sir y Fflint eleni i Mr Andrew Jones a Mr David Nickless ar y cyd am eu cyfraniad i Bêl-droed Bechgyn Ysgolion Sir y Fflint dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy. Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae hwn yn ddigwyddiad dathlu arbennig iawn ac rwyf wastad yn edrych ymlaen at gael bod yma. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod cyraeddiadau chwaraeon plant a phobl ifanc ac yn dathlu athletwyr talentog ein sir. “Mae’r Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn rhedeg ers 14 mlynedd yn Sir y Fflint, ac mae’n mynd o nerth i nerth. Mae’n hyfryd gweld y plant yn cymryd rhan mor frwdfrydig ac yn manteisio ar bob agwedd ar y cynllun ysbrydoledig hwn – hir oes iddo.”