Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Olive yn 103 oed

Published: 21/07/2016

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig. Mwynhaodd Olive Yates ei phen-blwydd yn 103 oed yng Nghartref Gofal Llys Gwenffrwd yn Nhreffynnon ar 16 Gorffennaf, a daeth y Cynghorydd Peter Curtis i ymweld â hi. Bu teulu a thrigolion Cartref Gofal Llys Gwenffrwd yn dathlu pen-blwydd Mrs Yates gyda hi, a chawsant de prynhawn. Ganwyd Mrs Yates ar 16 Gorffennaf 1913 yn Notty Ash yn Lerpwl ac roedd hin unig blentyn. Pan ganed hi, roedd Brenin Siôr V ar yr orsedd ac ers hynny, rydym wedi cael tri brenin arall ar Frenhines bresennol, a phan oedd hi’n ferch ifanc, fe gyfarfu â hi. Pan adawodd Mrs Yates yr ysgol, fe weithiodd mewn golchdy yn Lerpwl. Fe gyfarfu â George a phriododd ym mis Awst 1936 pan oedd hi’n 23 mlwydd oed. Gyrrwr tramiau oedd George, ac yn ddiweddarach, bu’n gyrru lorïau. Mae ganddi ddau o blant George a Anne, 13 o wyrion ac wyresau a llawer o orwyrion a gorwyresau. Yn ystod yr 2il Ryfel Byd, bun gweithio yn y ffatri arfau yn Lerpwl, ac fel llawer o bobl eraill, cafodd ei chartref ei fomio. Symudodd i fyw i Dreffynnon 40 mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn hapus byth ers hynny. Symudodd yn ddiweddar i Gartref Gofal Llys Gwenffrwd ar 6 Mehefin 2016.