Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnesau lleol yn elwa o grantiau

Published: 01/08/2016

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint wedi derbyn grant o £1,000 gan Fenter Ddur y DU fydd yn cael ei ddefnyddio i wella eu mentrau a chyfleoedd entrepreneuriaeth. Mae’r arian wedi’i rannu’n ddau grant o £500 a gwahoddwyd aelodau Clwb Menter Sir y Fflint i gyflwyno cais drwy ddangos sut y gallai’r arian wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefydlu neu ddatblygu eu busnes. Yna gwahoddwyd y busnesau ar y rhestr fer i gyflwyno eu hachos busnes i banel o feirniaid. Daeth y broses i ben gyda Seremoni Wobrwyo a drefnwyd gan Gymunedau yn Gyntaf drwy Glwb Menter Sir y Fflint. Yr enillwyr oedd Bethan Maria Williams o ABC – Amser Babi Cymraeg a Paula Lorraine Jones o Simply Magic Films. Mae ABC yn cynnig cymorth a chefnogaeth i fagu plant yn ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Maent yn cynnig ystod eang o weithgareddau gan gynnwys tylino babanod, ioga i fabanod, sblasio ac odli ac amser stori ac odli. Casglwyd y wobr gan wr Bethan, Gareth Williams, oherwydd ymrwymiadau gwaith. Byddant yn buddsoddi’r arian i brynu gliniadur ar gyfer y busnes ac offer marchnata, gan gynnwys stondin godi i godi ymwybyddiaeth o’r busnes newydd ac arloesol hwn. Mae Simply Magic Films yn gwmni ffilmiau lleol syn cael ei sefydlu gan Lorraine fydd yn cynnig pob agwedd o gynhyrchu ffilmiau a ffotograffiaeth ynghyd â chynnig dosbarthiadau. Bydd yr arian yn cynorthwyo i ddarparu offer, gan gynnwys pecyn golygu allweddol, y mae Lorraine ei angen i ddatblygu ei busnes ymhellach. Derbyniodd yr enillwyr eu sieciau gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton, yn y seremoni yng Nghanolfan Fenter Glannau Dyfrdwy yn Shotton. Mae Clwb Menter Sir y Fflint sydd â’u haelodau i gyd yn entrepreneuriaid, yn cynnig gwybodaeth am ddim a gweithdai gyda siaradwyr ysbrydoledig o wahanol sefydliadau a sefydliad addysg uwch ac addysg bellach. Maer clwb yn rhad ac am ddim i’w fynychu ac yn cyfarfod bob pythefnos ar Gampws Cymunedol John Summers, Chester Road East, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SE. Cynhelir y cyfarfodydd bob yn ail ddydd Gwener o 10.30am tan 12:30pm. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn gyfle i gefnogi Cymunedau yn Gyntaf a’r rhaglen Fenter, y busnesau a’r unigolion sy’n ei gefnogi, a’r rhai sydd wedi derbyn yr her o sefydlu busnes. Mae’r clwb wedi cael llwyddiant mawr ers sawl blwyddyn ac wedi datblygu enw da ac wedi cyflawni llawer.” Roedd Prif Swyddog Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden, Askar Sheibani Cadeirydd Rhwydwaith Entrepreneuriaid Busnes Sir y Fflint, Huw Maguire, Pennaeth Cymunedau yn Gyntaf a Glyn Thomas yn cynrychioli Menter Ddur y DU, a sefydlwyd yn yr 1970au i gynorthwyo busnesau mewn ardaloedd lle bo dirywiad y diwydiant dur wedi effeithio arnynt, oll yn bresennol. Dywedodd Glyn Thomas: “Busnesau bach yw enaid yr economi, ond mae sefydlu ac ehangu busnes yn her fawr. Mae Menter Ddur y DU yn falch o gynorthwyo a bydd yr arian yn hwb i gynorthwyor entrepreneuriaid newydd hyn. Dywedodd Huw Maguire: “Mae’r fenter hon yn hwb i entrepreneuriaid ifanc sydd eisiau sefydlu neu ehangu eu busnes eu hunain ond sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol.” I gael rhagor o wybodaeth am y Clwb Menter, cysylltwch â Swyddog Arweiniol Menter Cymunedau yn Gyntaf, Beverly Moseley ar 01244 846090 neu anfonwch e-bost at beverly.moseley@flintshire.gov.uk. Or chwith: Clare Budden, Paula Lorraine Jones, Glyn Thomas, Cyngh. Aaron Shotton, Huw Maguire, Gareth Williams ac Askar Sheibani