Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu ymwelwyr o Japan

Published: 08/08/2016

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis, Dderbyniad Dinesig ffurfiol i groesawu chwech o fyfyrwyr o Japan ar daith gyfnewid i Sir y Fflint. Roedd 38 o bobl yn bresennol yn y derbyniad, gan gynnwys cyfieithydd ar y pryd, Mr Koki Kinouchi, i helpur myfyrwyr Japaneaidd i fwynhau eu noson. Mae’r rhaglen hon yn cynnig ystod eang o weithgareddau addysgol a diwylliannol i’r gwesteion o Japan gan gynnwys ymweliadau â Llundain, Lerpwl, Windsor, Caer, Castell y Waun, Bae Colwyn, Castell Conwy, Helygain a Chaerwys. Ar ôl i’r Japaneaid fod yng Nghymru, bydd ein myfyrwyr o Sir y Fflint yn ymweld â Rhaglawiaeth Miyagi ble mae’r daith gyfnewid wedi bod yn digwydd ers 1991. Y myfyrwyr Japaneaidd yw: Ryosuke Kimura, Kota Sakuranaka, Moeko Sato, Nodoka Sasajima, Rena Omiya a Ryo Suzuki. Y myfyrwyr o Sir y Fflint a fydd yn teithio i Japan yw: Kerina Perhat, Cameron Gemmill, Olivia Andringa, Ruth Stubbs, Lola Seddon a Megan Roberts. Dywedodd y Cynghorydd Curtis: “Rwyf wrth fy modd yn cael croesawu ein hymwelwyr Japaneaidd a gobeithiaf y byddant yn cael profiad gwerthfawr a llawn mwynhad. Mae’r daith gyfnewid hon yn gyfle hyfryd ir ddwy wlad ddysgu am ffyrdd o fyw a diwylliannau gwahanol. Aros gyda theuluoedd yw’r ffordd orau o ddysgu drwy ymdrwytho yn yr iaith a’r diwylliant mewn amgylchedd gofalgar gyda chyd-fyfyrwyr am gymorth.” I fod yn gymwys i wneud cais am le ar raglen gyfnewid y flwyddyn nesaf, mae’n rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 a 18 oed ar 1 Medi 2016, mewn addysg llawn amser yn Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint. I roi syniad i’r myfyrwyr au teuluoedd o beth yw’r daith gyfnewid, bydd noson gyflwyno yn cael ei chynnal nos Lun 1 Tachwedd, am 6.30pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Bydd myfyrwyr a fu’n cymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid eleni yn rhoi cyflwyniad am eu profiad ar hyn y maent wedi’i elwa ohono. Bydd rhieni’r myfyrwyr hefyd yn rhoi cipolwg ou safbwynt nhw. Bydd ffurflenni cais ar gyfer y rhaglen gyfnewid ar gael ar y noson, neu drwy gysylltu â Karen Jones 07759295984 neu drwy anfon e-bost at karen.jones@flintshire.gov.uk. Ariennir y daith gyfnewid gan Ymddiriedolaeth Gyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint yn ogystal â grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan Toyota UK yng Nglannau Dyfrdwy a Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr sy’n cefnogi rhaglenni addysgol Japaneaidd. Derbyniad Japaneaidd Yn y llun gwelir myfyrwyr o Japan a Sir y Fflint gyda rhieni, gwarcheidwaid, trefnwyr, Ymddiriedolwyr a Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyngh. Peter Curtis a’i gymar Mrs Jenny Curtis.