Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Caffi yn dathlu ei flwyddyn gyntaf

Published: 08/08/2016

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn trefnu dathliadau i nodi blwyddyn ers agoriad y Caffi Cofio yn Nhreffynnon. Flwyddyn yn ôl, roedd y caffi yn Siop Artisan Treffynnon yn un or unig dri o’i fath yn y sir. Bellach mae gan Sir y Fflint saith caffi a bwriedir agor mwy yn y dyfodol. Mae Caffis Cofio yn helpu pobl sy’n colli eu cof (yn dilyn diagnosis neu beidio) a’u gofalwyr. Mae caffi cofio’n rhywle i gael cymorth a chyngor am ddim a chymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnwyd a chael sgyrsiau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Cafwyd dathliadau ar thema glan y môr a mwynhaodd bawb fwffe a gemau parti, gan gynnwys bingo cerddorol. Yn y parti roedd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones, Maer a Maeres Treffynnon, y Cynghorydd J M Johnson a Mrs Johnson gyda mam y Cynghorydd Johnson, Gladys, a chwaraeodd yr organ fel bo pawb yn cael ymuno yn y caneuon glan môr. Dywedodd y Cynghorydd Johnson: “Mae’r caffi hwn yn hanfodol bwysig i’n hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ddementia ac rwy’n falch o weld cynifer o bobl yn mynychu a mwynhau’r sesiwn. Rwy’n falch o fod yn Gyfaill Dementia fy hun a byddwn yn argymell unrhyw un i geisio cael gwell dealltwriaeth o ddementia.” Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones: Mae caffis cofio yn syniad gwych ac yn ffordd dda o gael pobl syn byw â dementia au gofalwyr at ei gilydd yn gymdeithasol yn ogystal â darparu help a chyngor proffesiynol. Maen fan cyfarfod anffurfiol ac nid oes angen atgyfeiriad gan mai grwp galw heibio ydyw. Mae hwn yn fater syn cael lle blaenllaw yn ein polisïau gofal cymdeithasol i oedolion a byddwn yn anelu at agor mwy o Gaffis Dementia ym mhob cwr or Sir. Mae’r Caffi ar agor bob yn ail ddydd Gwener o 1.30 – 3.30pm yn Siop Artisan, 49-51 Heol Fawr, Treffynnon. Mae’r trefnwyr yn dymuno diolch i Tesco am ddarparu’r lluniaeth. Am fwy o wybodaeth am hyn a chaffis cofio eraill yn Sir y Fflint, cysylltwch â Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu Luke.Pickering-jones@flintshire.gov.uk. Y Cynghorydd Jones, y Cynghorydd Johnson a Lynda Carter o Tesco ynghyd a Helen Hughes a Sian Lewis ac aelodau o Dîm Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn mwynhau dathlu gyda defnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr.