Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun grant y dreth gyngor i bobl hyn

Published: 16/06/2014

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth (17 Mehefin), mae disgwyl i’r Cabinet gymeradwyo cynllun i helpu pobl hyn sydd ar incwm isel i dalu’r dreth gyngor. Bwriad y cynllun arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yw helpu deiliaid tai sydd wedi’u hasesu fel rhai sydd angen cymorth ariannol ac sydd eisoes wedi derbyn rhywfaint o help i dalu eu treth gyngor. Mae ychydig dros £200,000 ar gael i Gyngor Sir y Fflint i helpu trigolion lleol yn ôl eu disgresiwn. Rhaid i unrhyw un sy’n hawlio fod yn 60 oed neu’n hyn a bod yn atebol i dalu’r dreth gyngor mewn eiddo sy’n cael ei ddosbarthu fel ‘unig a phrif’ breswylfa. Dylent hefyd fod yn gymwys i dderbyn cymorth rhannol a’r uchafswm sydd ar gael i bob cartref yw £95. Bydd grantiau’n cael eu credydu’n awtomatig i gyfrifon treth cyngor deiliaid tai sy’n gymwys yn ystod mis Gorffennaf 2014. Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod o’r Cabinet dros Reoli Corfforaethol: “Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru a roddir drwy gynllun y Cyngor yn galluogi pobl hyn i gael help ychwanegol gyda’u biliau treth gyngor. Mae’n bwysig ein bod yn cynnig cymorth ariannol i ddeiliaid tai sydd wir ei angen yn yr ardal.” Am fwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwyso, cysylltwch â’r Cyngor.