Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Allweddi i addysg

Published: 24/08/2016

Mae’r datblygwyr Wynne Construction wedi cyflwyno’r allweddi i David Jones, Prif Weithredwr Coleg Cambria, i Ganolfan Chweched Dosbarth newydd Glannau Dyfrdwy gwerth £14.6 miliwn a fydd yn agor ar amser ar gyfer dechraur flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi. Wedi’i datblygu ar y cyd gan Goleg Cambria, ysgolion lleol a Chyngor Sir y Fflint, bydd y Ganolfan yn darparu cyfleusterau newydd a chwricwlwm ehangach o ddewis ar gyfer 700 o ddysgwyr ôl-16 yn Sir y Fflint mewn lleoliad canolog rhwng campws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria ac Ysgol Uwchradd Cei Connah. Maer adeilad tri llawr yn cynnwys cyfleusterau arbenigol y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chelfyddydau creadigol yn ogystal â dosbarthiadau addysgu cyffredinol a mannau astudio cymdeithasol a phreifat. Ar gael o fynedfa sydd newydd ei ffurfio o Lôn Golftyn, maer cynllun yn cynnwys maes parcio i staff ac ymwelwyr yn ogystal â man parcio bysiau i wasanaethu safle ehangach Coleg Cambria. Dywedodd Y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, “Bydd y cyfleuster newydd gwych heb os yn gwella amgylchedd dysgu cannoedd o fyfyrwyr ac rwyf yn sicr y bydd yn dod yn ganolfan rhagoriaeth yn y blynyddoedd i ddod. “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Coleg Cambria, ysgolion lleol, swyddogion y cyngor ac Wynne Construction am gydweithio mor dda a gwneud ein huchelgeisiau yn realiti.” Dywedodd David Jones OBE, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Cambria; “Rydym wrth ein bodd bod 6ed dosbarth Glannau Dyfrdwy yn gyflawn ac yn barod i groesawur myfyrwyr cyntaf i’r cyfleuster newydd sbon hwn o’r radd flaenaf. Maer prosiect hwn wedi bod yn enghraifft wych or gwaith partneriaeth sydd wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd rhwng Coleg Cambria a Chyngor Sir y Fflint. “Maer ganolfan 6ed dosbarth newydd gyffrous hon yn darparu amgylchedd dysgu sy’n cymryd mantais o dechnoleg newydd gan gynnig gwell opsiynau cwricwlwm a phrofiadau ar gyfer pobl ifanc o ogledd ddwyrain Cymru. Rydym yn wirioneddol ffodus yn yr ardal hon i gael sylfaen economaidd gadarn mewn cyflogaeth a bydd y gefnogaeth unigol a’r anogaeth yn ogystal âr her y gallwn ei gynnig yn 6ed dosbarth Glannau Dyfrdwy yn galluogi ein pobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu nodau.” Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction; “Mae hwn wedi bod yn brosiect enghreifftiol o ran y cydweithio rhwng yr holl bartïon i gyflawnir cyfleuster newydd gwych ar gyfer addysg chweched dosbarth yn Sir y Fflint. Rydym wrth ein bodd gydar canlyniad”