Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canlyniadau TGAU Sir y Fflint 2016

Published: 25/08/2016

Cyfran y graddau yn yr amrediad A* i C yn 2016 yw 66.6% ar draws Cymru, yr un fath ag yn 2015. Maer graddau llwyddo uwch (A*- C) hyn ar draws Sir y Fflint yn sefyll ar 67.2% or holl arholiadau a gymerwyd gyda Bwrdd Cymreig. Mae hyn yn 0.2% yn uwch na ffigur Sir y Fflint ar gyfer yr holl arholiadau ar yr un cyfnod y llynedd. Mae cyfran y graddau A* ac A a gyflawnwyd gan fyfyrwyr Sir y Fflint gyda’r Bwrdd Cymreig yn 2016 yn 18.9%, sydd 0.5% yn uwch na’r un cyfnod yn 2015. Mae’r cyfanswm o bynciau a gofrestrwyd gyda’r Bwrdd Cymreig gan fyfyrwyr Sir y Fflint ar gyfer arholiadau’r haf 1.1% yn is na’r llynedd. Dywedodd Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell: “Ar ran Cyngor Sir y Fflint, fe hoffwn longyfarch ein holl ddisgyblion ar eu canlyniadau TGAU. Unwaith eto mae ein disgyblion wedi perfformion dda a chyflawni safonau uchel yn eu harholiadau allanol. Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i alluogi i’r myfyrwyr lwyddo ac i’r holl rieni a gofalwyr sydd wedi darparu cefnogaeth ac anogaeth iw plant. Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi’r myfyrwyr i symud ymlaen i gyrsiau addysg ôl-16 neu ddod o hyd i waith addas. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt, pa bynnag gwrs y byddant yn ddewis ei astudio.” Ychwanegodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd: “Mae’r Cyngor yn falch o longyfarch y myfyrwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr Sir y Fflint am y canlyniadau TGAU da hyn. Maent yn ganlyniad i ymrwymiad a gwaith caled ein myfyrwyr. Gall ein pobl ifanc symud ymlaen â hyder i Addysg Bellach yn Sir y Fflint. Maer Cyngor yn llongyfarch ein holl fyfyrwyr ar eu llwyddiant.