Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn talu teyrnged i gampau’r Nomadiaid yng Nghwpan Europa

Published: 31/08/2016

Ym mis Tachwedd 2015, roedd gap Nomads Cei Connah ar waelod Uwchgynghrair Cymru Dafabet ac roedd yn ymddangos bod posibilrwydd realistig iawn y byddent yn disgyn or gynghrair. Ar y pwynt hwn, penododd y Clwb cyn-gapten Manchester City, Andy Morrison, yn Reolwr y Tîm Cyntaf a gwelwyd newid syfrdanol yn eu ffawd. Cododd y Clwb eu safon yn gyflym iawn, gan ddringor tabl yn dilyn cyfres o ganlyniadau da cyn curo TNS a oedd yn ddiguro cyn hynny i sicrhau lle yn y Chwech uchaf ar gyfer ail hanner y tymor. Aeth y Nomadiaid yn eu blaen i orffen yn bedwerydd yn y gynghrair, y safle uchaf iddynt orffen ynddo erioed, ac aethant drwodd ir gemau ail gyfle ar gyfer Cynghrair Europa UEFA, ller oedd buddugoliaethau yn erbyn Caerfyrddin a’r gelynion lleol Airbus yn ddigon i sicrhau antur Ewropeaidd gyntaf erioed y Clwb. Cafodd enw’r Nomadiaid ei dynnu o’r het yn erbyn gwrthwynebiad llawn amser, sef Stabaek o Norwy, ac ar ddiwedd mis Mehefin gwnaethant lwyddo i ddal y tîm o’r Tippeligaen i gêm gyfartal 0-0 yn y cymal cyntaf yn y Rhyl. Wythnos yn ddiweddarach, gwelodd y Clwb y canlyniad mwyaf yn ei 70 mlynedd o hanes pan roddodd gôl Callum Morris yn y 15fed munud fuddugoliaeth hanesyddol o 1-0 i’r Nomadiaid yn Fredrikstad, Norwy. Y canlyniad hwn oedd y tro cyntaf i dîm o Gymru beidio ag ildio goliau dros ddau gymal mewn cystadleuaeth Ewropeaidd mewn dros 200 o gemau. O ganlyniad, aeth y Nomadiaid yn eu blaen i wynebu’r tîm o Serbia, FK Vojvodina - tasg anodd o ystyried eu bod wedi trechu’r tîm o Serie A yr Eidal, Sampdoria, 6-0 dros ddau gymal y tymor blaenorol. Brwydrodd y Nomadiaid yn wrol yn Serbia a cholli o ddim ond 1-0 i gôl hwyr yn dilyn gwyriad. Roedd y Serbiaid yn ormod i’r Nomadiaid ymdopi â nhw dros y ddau gymal, gyda’r Nomadiaid yn colli yn y pen draw o 3-1 ar gyfanswm goliau, ond y canlyniad ar perfformiad dros y pedair gêm oedd y llwyddiant mwyaf yn hanes Nomadiaid Cei Connah. Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis: “Ar ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn longyfarch gap Nomadiaid Cei Connah ar eu llwyddiant ffantastig. Dros y ddwy gêm, roeddent yn hysbyseb gwych i Uwch Gynghrair Cymru Dafabet ac mae Sir y Fflint a Chymru yn falch ohonynt. ”Yn dilyn llwyddiant diweddar tîm cenedlaethol Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016, mae llwyddiant gap Nomadiaid Cei Connah yn adlewyrchu llwyddiant y gwaith o ddatblygu pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru a bydded i hynny barhau.