Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Anifeiliaid Anwes

Published: 16/06/2014

Mae disgwyl i bolisi a fydd yn annog tenantiaid tai cyngor i fod yn berchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol gael ei gymeradwyo mewn cyfarfod o’r Cabinet Dydd Mawrth yma (17 Mehefin). Mae Cyngor Sir y Fflint wedi datblygu’r polisi hwn er mwyn cydbwyso manteision cadw anifeiliaid anwes ag egwyddorion lles anifeiliaid ac ymrwymiad y Cyngor i fynd ir afael â materion niwsans cymdogion. Ei nod yw darparu fframwaith clir ar gyfer cwsmeriaid, swyddogion ac aelodau etholedig, fel bod dull cyson o berchenogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes yn cael ei weithredu ar draws y sir. Bydd y polisi’n datgan y gellir cadw uchafswm o ddwy gath a dau gi yn dibynnu ar faint yr eiddo a bydd pob cais yn cael ei asesu ar ei rinweddau unigol. Mae’r polisi hefyd yn rhoi sylw i anifeiliaid eraill ac ni fydd tenantiaid yn cael cadw da byw. Mae cytundebau tenantiaeth y Cyngor eisoes yn nodi bod yn rhaid i drigolion gael caniatâd gan y Cyngor i gadw anifeiliaid anwes ac ni fydd gofyn i’r rhai sydd eisoes wedi cael caniatâd i wneud cais. Fodd bynnag, bydd gofyn i denantiaid presennol nad oes ganddynt ganiatâd roi manylion unrhyw anifeiliaid y maent yn eu cadw. Bydd yn rhaid i denantiaid newydd sy’n symud i mewn i eiddo’r cyngor lenwi ffurflen gais a fydd yn eu hannog i roi ystyriaeth i amrywiaeth eang o ystyriaethau gyda’r nod o hyrwyddo lles anifeiliaid a lleihaur tebygolrwydd y bydd materion yn codi. Bydd penderfyniadau’n dal i gael eu gwneud gan y swyddogion tai cymdogaeth, gyda hawl i denantiaid ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad a wneir. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod y Cabinet dros Dai: “Mae bob amser yn rhaid i denantiaid mewn unrhyw eiddo rhent ofyn am ganiatâd i gadw anifeiliaid anwes ac mae’r polisi’n atgyfnerthu safbwynt y Cyngor fel landlord. Mae problemau’n codi pan fod gormod ohonynt ar gyfer maint yr eiddo neu pan na allant ofalu amdanynt yn gywir. “Maer polisi hwn yn nodi canllawiau penodol i bawb eu dilyn, gan gynnwys swyddogion y Cyngor a bydd yn gwneud y broses o gadw anifeiliaid anwes yn llawer symlach i denantiaid.” Bydd gofyn i denantiaid newydd ddarllen y daflen ganlynol “Perchnogaeth Gyfrifol o Anifeiliaid Anwes: Canllaw i Denantiaid Cyngor Sir y Fflint . Mae hwn ar gael gan y Cyngor drwy fynd i’r wefan www.siryfflint.gov.uk