Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod y Llynges Fasnach

Published: 06/09/2016

Am 9:30am ar Ddiwrnod y Llynges Fasnach, 3 Medi, chwifiodd Gyngor Sir y Fflint y Lluman Coch yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddibyniaeth barhaus y DU ar forwyr y Llynges Fasnach. Arweiniodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis, seremoni fer cyn codi’r faner. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi galwad cenedlaethol gan elusen Seafarers UK a Chymdeithas y Llynges Fasnach i annog chwifio baner swyddogol Llynges Fasnach y DU ar adeiladau cyhoeddus a pholion fflagiau o bwys. Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis, Cadeirydd y Cyngor: “Rwyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn ymuno â sefydliadau cyhoeddus eraill ledled Cymru ar DU i gydnabod gwaith gwerthfawr y Llynges Fasnach ai chyfraniad at les y Genedl.” Fel ‘cenedl sy’n ynys’, mae’r DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges Fasnach ar gyfer 95% on mewnforion, gan gynnwys hanner y bwyd yr ydym yn ei fwyta. Mae gan y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% on hallforion (yn ôl cyfaint) yn cael eu cludo o borthladdoedd y DU, mae rhai ohonynt yn cefnogir ymgyrch drwy annog llongau syn ymweld â hwy i ganu eu cyrn am 10am ar 3 Medi. www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-day