Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Croesawu Jade Jones adref

Published: 06/09/2016

Mae gan Gyngor Tref y Fflint ar y cyd â Chyngor Sir Y Fflint gynlluniau mawr i groesawu Jade Jones, Pencampwr Olympaidd yn ôl adref. I gydnabod llwyddiant Jade yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio, bydd yr enillydd medal aur ddwbl yn westai gwadd mewn derbyniad dinesig yn Neuadd y Dref, y Fflint, a bydd yn teithio o amgylch ei thref enedigol mewn bws agored. Cynhelir y digwyddiad mawr ddydd Sadwrn, 17 Medi 2016. Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys amseroedd, yn cael eu cyhoeddi yn y wasg ac ar wefannau’r Cyngor yn y dyddiau nesaf. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Maer y Fflint: Rydym yn falch iawn o Jade a’i llwyddiant parhaus, ac yn edrych ymlaen at barti croeso’n ôl y mae’n haeddu’n fawr iawn. Mae Cyngor Tref y Fflint yn hapus iawn i’w anrhydeddu gyda’r derbyniad dinesig hwn. Rydym yn gobeithio y bydd pobl Fflint yn dod i Neuadd y Dref i ddangos i Jade faint o feddwl sydd gennym o’i llwyddiannau Olympaidd gwych.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae llwyddiannau y DU yn Rio wedi bod or radd flaenaf, ac mae’r ffaith fod Jade, athletwr o Sir y Fflint, wedi cyfrannun sylweddol at leoliad Tîm GB ar fwrdd yr arweinwyr yn ysbrydoledig iawn. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Cyngor Tref y Fflint wrth groesawu Jade adref mewn steil. Mae hin fodel rôl wirioneddol i bobl ifanc sy’n tyfu i fyny yn Sir y Fflint ac yn dangos sut gydag awydd gwirioneddol y gallwch gyflawni eich breuddwydion” Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet Hamdden: “Hoffwn longyfarch Jade yn bersonol, enillydd medal aur dwbl yn 23 oed, mae’n ferch ifanc wirioneddol ysbrydoledig sydd wedi dangos, gyda gwaith caled parhaus ac ymroddiad fod unrhyw beth yn bosibl. Byddwn yn gweithio dros y misoedd nesaf i sicrhau bod ein rhaglenni datblygu chwaraeon yn adeiladu ar lwyddiant Jade ac annog unrhyw un sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon i fod yn gallu cymryd rhan a gwirioni ar chwaraeon.” Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Rwy’n gobeithio y bydd llwyddiant Jade yn ysbrydoli preswylwyr Sir y Fflint o bob oedran i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gan Taekwondo gysylltiadau lleol cryf ac rwy’n siwr y bydd cynnydd mewn diddordeb i gyrsiau i ddechreuwyr yn dilyn llwyddiant Olympaidd ysbrydoledig Jade.”