Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adnewyddu tai’r sector preifat

Published: 16/06/2014

Disgwylir y bydd newidiadau i bolisi’r cyngor syn delio â gwella tai yn y sector preifat yn cael ei gymeradwyo mewn cyfarfod o’r Cabinet ddydd Mawrth (17 Mehefin). Mae awdurdodau lleol yn ystyried yr holl amodau tai yn eu hardal ac maen ofynnol iddynt helpu cartrefi nad oes ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i gadw eu cartrefi mewn cyflwr da. Mae mentrau newydd o fewn y polisi hwn a ddiweddarwyd yn cynnwys cynnyrch benthyciad Effeithlonrwydd Ynni, i helpu i ddarparu llenwi nwy mewn cymunedau ar draws Sir y Fflint. Bydd ffocws rhaglen effeithlonrwydd ynnir Cyngor 2014-15 yn cynnwys 233 o dai cyngor yn Aston a Mostyn yn cael eu cysylltu ir prif gyflenwad nwy ac maer Cyngor yn awyddus i ddarparu benthyciad i berchnogion tai preifat yn yr ardal a fyddain annog trigolion eraill i gysylltu. Mae cyflwyno Cynllun Benthyciadau Gwella Eiddo gan Lywodraeth Cymru yn brosiect newydd arall fyddai’n gwneud benthyciadau ar gael i berchen-feddianwyr a landlordiaid preifat i wneud gwelliannau hanfodol iw heiddo. Bydd amodau newydd ar gyfer benthyciadau a roddwyd ar gyfer cartrefi gwag hefyd yn cael eu cynnwys yn y polisi a bydd yn golygu bod yn rhaid i berchnogion gydsynio ir eiddo gael ei reoli gan asiantaeth gosod tai cymdeithasol o ddewis y Cyngor am isafswm o ddwy flynedd ar gyfer benthyciad a phum mlynedd lle mae grant wedi cael ei ddarparu. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod y Cabinet dros Dai: “Maer holl gynlluniau hyn o fewn y polisi wedi eu dylunio i helpu trigolion i wella eu hamodau byw cyn belled ag y bo modd gydar arian sydd ar gael. Maen ymwneud â rhoi gwell ansawdd bywyd i bobl leol a chadw at safonau ansawdd ym mhob sector nid tai cyngor yn unig.”