Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau Taclusaf 2016

Published: 19/09/2016

Mae enillwyr pob categori ar gyfer Cymunedau Taclusaf Sir y Fflint 2016 wedi derbyn eu gwobrau mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir yn ddiweddar. Yr enillydd ar gyfer y pentref taclusaf gyda phoblogaeth o dan 1,000 oedd Llanfynydd gyda Bretton Lane yn ail. Dyfarnwyd y drydedd wobr i Lanasa. Caerwys oedd enillydd y gymuned daclusaf gyda phoblogaeth o dros 1000 ac o dan 5000, gyda Higher Kinnerton yn ennill yr ail wobr. Daeth Llaneurgain yn drydydd. Yr Wyddgrug oedd enillydd y wobr Canol Tref Taclusaf, gyda Threffynnon yn ail, ac aeth y drydedd wobr i’r Wyddgrug. Enillwyd gwobr yr ystâd henoed daclusaf gan Meadow Rise, Penyffordd, gyda’r ail wobr yn mynd i Heol y Dderwen, Coed-llai. Daeth Ffordd Llaneurgain yn drydydd a chafodd tystysgrif deilyngdod ei dyfarnu i Bennetts Lane, Higher Kinnerton. Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis: “Mae nifer a safon y ceisiadau wedi bod yn wych eleni. Rwy’n siwr ei bod wedi bod yn anodd i’r beirniaid, Fred Gillmore a Les a Sue Starling, wrth ddewis yr enillwyr. “Maer pwyslais ar wneud cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddynt, ar gyfer pobl ac ar gyfer bywyd gwyllt. Y bobl sy’n cymryd rhan ar noddwyr syn gwneud y gystadleuaeth yn bosib, ac eleni y rhain oedd Airbus, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Grwp Cynefin, Tesco, Toyota a Warwick Chemicals. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus.” Treuliodd y beirniaid bedwar diwrnod yn ymweld âr cymunedau a gystadlodd, a chrëwyd argraff arbennig arnynt gan y gwaith a oedd wedi mynd i greu gerddi ysgolion. Y gwobrau oedd £100 am y wobr gyntaf, £75 am yr ail wobr a £50 am y drydedd wobr. Maer enillwyr eraill wedi eu rhestru isod. Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf Y wobr gyntaf: Chwarel Bryn y Baal Yr ail wobr: Swinchiard Brook, Y Fflint Y drydedd wobr: Ardal Bywyd Gwyllt Leadmills, Yr Wyddgrug Tystysgrif Teilyngdod Gardd Capel Quaystone, Cei Connah Gwobr arbennig y Beirniaid Canmoliaeth Uchel Ysgol Gynradd Brynffordd (£40 o dalebau Tesco) Tystysgrif Teilyngdod i bob un or canlynol (£20 o dalebau Tesco): Ysgol Gynradd Derwen, Higher Kinnerton Ysgol Gynradd yr Esgob, Caerwys Ysgol GG Gwernymynydd Llun: Y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis, gydar enillwyr a’r noddwyr