Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwyl Goleuni Abaty Dinas Basing

Published: 20/09/2016

Bydd gwyl tafluniadau golau a gweithgareddau addas ir teulu yn rhad ac am ddim yn cael ei gynnal yn Abaty Dinas Basing, Maesglas, ddydd Sadwrn 15 Hydref 2016. Bydd Gwyl Goleuni eleni yn arddangos asedau, amgylchedd a threftadaeth arfordir Sir y Fflint. Maer digwyddiad yn dechrau am 4pm ac yn gorffen am 7:30pm ac mae’n rhad ac am ddim. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gwneud llusernau ac offerynnau taro gydag artistiaid lleol, i wrando ar gerddoriaeth acwstig fyw, dewch â phicnic neu fwynhau BBQ ar y safle, cymryd rhan mewn gorymdaith llusernau gydar hwyr ac yna mwynhau diweddglo perfformiad dawns a thafluniadau, a fydd i gyd wedi eu creu yn arwain i fyny at y digwyddiad. Mae gosodiadau celf arbenigol, darnau dawns, tafluniadau ffilm, cerddoriaeth a gweithdai yn cael eu creu gan NEW Dance, artistiaid Ben Davis, Judith Wood, Rob Spaull, Ynyr Llwyd a Honor Pedican yn benodol ar gyfer yr wyl. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy weithio gyda chyfranogwyr o amrywiaeth o gymunedau arfordirol ac ysgolion Sir y Fflint mewn amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol mis Medi. Bydd cerddoriaeth fyw gan gerddorion acwstig lleol, ar y llwyfan y tu mewn ir abaty, a gorymdaith llusernau cyfnos yn ychwanegu at yr awyrgylch yn yr wyl am ddim i bob oed i greu cyfarfyddiad y gobeithir y bydd yn rhoi persbectif newydd ar hanes a thirweddaur rhanbarth i bobl, ysbrydoli creadigrwydd yn y rhanbarth ac yn annog pobl i archwilior arfordir. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Rydym yn falch o fod yn arddangos ein cymunedau arfordirol amrywiol, ddeniadol a bywiog a threftadaeth gysylltiedig fel y brif nodwedd yn ystod Gwyl Goleuni Dinas Basing. Rwyf yn siwr y bydd ymwelwyr ân rhanbarth arfordirol hardd yn mwynhaur digwyddiad yn fawr iawn ac yn dychwelyd yn y dyfodol i edrych ar yr ystod lawn o atyniadau ymwelwyr sydd gan Sir y Fflint iw cynnig.” Meddai llefarydd ar ran y Gronfa Loteri Fawr: “Mae Cymunedau Arfordirol yn rhannu ymdeimlad cryf o le a bydd y cyllid ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael effaith bositif ar economir ardal leol ai chymunedau.” Maer wyl yn cael ei threfnu gan dîm celfyddydau, diwylliant a digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint gyda chymorth ariannol gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir a Cadw. Mae Cronfa Cymunedaur Arfordir yn cael ei chyllido gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau morol Ystâd Y Goron. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.