Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Offer achub bywyd yn cael ei dargedu

Published: 27/09/2016

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint yn pryderu am fandaliaeth barhaus i orsafoedd cylch achub ger Pwll Condies yn Bettisfield, safle y maen rheoli ym Magillt, ac yn Noc Greenfield. Yn Bettisfield, mae cylch achub wedi cael ei fandaleiddio 7 gwaith ers mis Mai, ac ar un achlysur cafodd cylch achub a llinell daflu eu dwyn. Mae’r orsaf cylch achub wedi cael i ddifrodi ddwywaith ac wedi gorfod cael ei drwsio. Yn Greenfield, mae’r orsaf cylch bywyd cyfan wedi cael ei rwygo allan. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maer darn hanfodol o offer achub bywyd wedi cael ei ailosod yn gyflym, ond mae cyfnodau o amser pan nad yw wedi bod yn hygyrch oherwydd gweithredoedd difeddwl a hunanol pobl eraill. Mae yna gost i’w dalu er mwyn trwsio ac ailosod yr offer sydd wedi’i ddifrodi, a gofynion ychwanegol ar ein Ceidwaid Gwasanaeth Cefn Gwald sydd angen ymateb i’r digwyddiadau hyn fel blaenoriaeth”. “Maer offer wedi cael ei osod am reswm da ac maen bryder os bydd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau, efallai na fydd yr offer achub bywyd ar gael pan fydd ei angen. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael gwybod am y digwyddiadau hyn a buaswn yn annog aelodaur cyhoedd i roi gwybod i’r Heddlu am unrhyw ymddygiad amheus o amgylch y safle, neu gysylltu â’n Gwasanaeth Cefn Gwlad drwy ffonio 01352 703900.” Nodyn i olygyddion Yn y llun sydd ynghlwm ger gorsaf cylch bywyd Pwll Condies y mae aelod lleol y Cyng. Mike Reece a’r Ceidwad Cefn Gwlad Tim Johnson.