Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mwy o gymunedau yn Sir y Fflint yn ystyriol o ddementia

Published: 28/09/2016

Mae grwp o drigolion a sefydliadau lleol yn yr Wyddgrug yn gweithio gydai gilydd i wneud y dref yn fwy ystyriol o ddementia. Mae grwp llywio Ystyriol o Ddementia Yr Wyddgrug, syn cynnwys Cyngor Tref yr Wyddgrug, Cyngor Sir y Fflint, Home Instead, Boots a chartref nyrsio’r Bwthyn, wedi dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma a gwella cefnogaeth i bobl leol sydd wedi eu heffeithio gan ddementia. Maer grwp wedi ysgrifennu cynllun gweithredu syn cynnwys sefydlu a chefnogi Caffis Cof lleol a chynnal nifer o sesiynau ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia yng nghanol y dref. Derbyniodd y grwp statws gweithio i fod yn fwy ystyriol o ddementia’ yn ddiweddar gan y Gymdeithas Alzheimer dan y broses gydnabyddiaeth swyddogol Cymunedau syn Ystyriol o Ddementia. O ganlyniad, maent yn awr yn chwilio am fwy o fusnesau, gwasanaethau a sefydliadau lleol i gymryd rhan mewn gwneud yr Wyddgrug yn fwy cefnogol i bobl syn byw gyda dementia. I gymryd rhan neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch âr grwp llywio drwy eu cyfeiriad e-bost dementiafriendlymold@gmail.com neu dilynwch nhw ar Facebook neu Twitter @dementia_Mold. Mae adroddiad gan Gymdeithas Alzheimer, Adeiladu Cymunedau syn Ystyriol o Ddementia: Blaenoriaeth ar gyfer pawb, yn dangos bod llai na hanner y bobl syn byw gyda dementia yn teimlon rhan or gymuned (47%) a bron i dri chwarter (73%) o oedolion y DU a holwyd mewn arolwg YouGov ddim yn meddwl bod y gymdeithas yn barod i ddelio â dementia. Roedd llawer o bobl â dementia yn dweud eu bod yn teimlo’n gaeth yn eu cartrefi eu hunain ac yn cael eu gadael i lawr gan eu cymunedau, gydag un mewn tri yn unig yn mynd allan unwaith yr wythnos ac un o bob 10 yn unig ond yn llwyddo i wneud hyn unwaith y mis. Mae 1969 o bobl yn byw gyda dementia yn Sir y Fflint a bydd creu cymuned sy’n ystyriol o ddementia yn helpu i leihau stigma a gwneud i bobl deimlon hyderus, cael eu deall au cefnogi i fod yn rhan werthfawr o gymdeithas. Yng Ngogledd Cymru, mae pum cymuned sydd wedi derbyn statws gweithio tuag at fod yn ystyriol o ddementia’. Mae tair or pum cymuned yn Sir y Fflint. Yn gynharach eleni, yn yr un wythnos, cafodd y Fflint a Bwcle eu cydnabod yn ffurfiol gan Gymdeithas Alzheimer fel cymunedau sy’n ystyriol o ddementia. Nhw oedd y cyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn achrediad or fath ac mae llawer o ddinasoedd, trefi a phentrefi bellach yn edrych ar beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn cefnogi pobl sydd â dementia yn well au galluogi i fyw yn dda yn y gymuned. Dywedodd Cynghorydd Sir y Fflint, Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Maer Fflint a Bwcle yn gweithion galed i gyflawni cydnabyddiaeth gan y Gymdeithas Alzheimer ac rwyn falch iawn bod Yr Wyddgrug bellach wedi ymuno â nhw. Maen dyst gwirioneddol ir bobl ofalgar sy’n gweithion galed yn ein sir i gael tair allan or pum tref sydd â’r statws hwn. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda threfi eraill iw helpu i gyflawni cymuned sy’n ystyriol o ddementia lle mae pobl â dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi ac yn hyderus y gallant gyfrannu at fywyd y dref.” Meddai Jacky Baldini, Rheolwr Gweithrediadau Cymdeithas Alzheimer yng Ngogledd Cymru: “Mae cymuned sy’n ystyriol o ddementia yn ddinas, tref neu bentref lle mae pobl â dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi, ac yn hyderus y gallant gyfrannu at fywyd y gymuned. “Maen wych i glywed am y gwaith cadarnhaol syn digwydd yn yr Wyddgrug. Maent yn gosod safon uchel ac rwy’n gobeithio y bydd llawer mwy yn dilyn ar draws Gogledd Cymru. Rydym am i bobl o bob cefndir i ymuno âr mudiad Cymunedau sy’n Ystyriol o Ddementia. “Er ei bod yn dda gweld pa mor bell yr ydym wedi dod, yn anffodus mae gormod o bobl â dementia syn dal i deimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi ac yn rhan ou hardal leol; maent yn teimlo eu bod yn gaeth yn eu cartref eu hunain, yn ynysig, yn unig ac yn faich. “Maen bosibl gwneud newidiadau bach a fydd yn gwneud eu bywyd bob dydd yn llawer gwell ac yn eu helpu i aros yn rhan o gymuned am gyfnod hwy. Byddwn yn annog pawb i gael gwybod mwy am sut y gallwch chi ach cymdogaeth ddod yn gymuned sy’n ystyriol o ddementia.” I gael mwy o wybodaeth ar Gymunedau sy’n Ystyriol o Ddementia ar broses gydnabyddiaeth swyddogol, cysylltwch â Jo Lane, Cydlynydd Cymunedau syn Ystyriol o Ddementia ar gyfer Gogledd Cymru ar 01352 700728 neu jo.lane@alzheimers.org.uk.