Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


10fed Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn llwyddiant ysgubol

Published: 07/10/2016

Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y Fflint, sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn, wedi ei ddisgrifio fel llwyddiant ysgubol. Mae’r digwyddiad, mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems a Westbridge Furniture Designs, yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i fath yn yr ardal, gan ddenu dros 2,000 o fusnesau’n rheolaidd. Maen cefnogir gymuned fusnes yn y sir ac, yn gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo. Dymar drydedd flwyddyn ir digwyddiad gael ei arwain gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones, sydd yn Llywydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint, yn ogystal â Llywydd Cynghrair Merswy a Dyfrdwy. Mae gan yr Arglwydd Jones brofiad enfawr o weithio i helpu diwydiant yng Nghymru a Glannau Dyfrdwy. Mae uchafbwyntiaur rhaglen yn cynnwys yr Arddangosfa Fusnes Rhanbarthol, digwyddiad Cyflogaeth a Gwybodaeth, noson Swyddi a Sgiliau Rhanbarthol; seminarau Economi ac Uchelgais a digwyddiad Rhwydwaith Twristiaeth - yn cwmpasu pob agwedd ar yr economi lleol bywiog. Agorodd yr Arglwydd Jones yr arddangosfa a siaradodd yn frwd am y digwyddiad: “Mae’n anrhydedd mawr, fel gwladgarwr lleol, i fod yma i ddathlu llwyddiant 10 mlynedd Wythnos Fusnes Sir y Fflint – hwn yw’r digwyddiad orau o’r fath yng Nghymru, a Sir Y Fflint yw’r sir a weinyddir ac arweinir orau yng Nghymru. Mae’n rhaid i mi sôn am y Cynghorydd Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd sydd ag ysbryd anorchfygol a dyfalbarhad, a’r Prif Swyddog dros Gymuned a Menter, Clare Budden sydd yn benderfynol a chraff. “Mae’r perthnasau a chynghreiriau sydd wedi eu datblygu dros y 10 mlynedd diwethaf, a’r twf busnes newydd a’r potensial mawr i allforio yr ydym wedi ei weld yn datblygu wedi bod yn destament i’r ysbryd entrepreneuraidd sy’n gweithio’n galed yn y rhanbarth. Bydd yr ysbryd hwn yn ein rhoi mewn lle da fel mae’r Cynghrair Merwy a Dyfrdwy yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru a dros y ffin yn Lloegr. Rydym yn cyfarch Vauxhall, Toyota ac Airbus, ond mae diolch i chi am ein hadferiad ‘steil phoenix’ - y Busnesau bach a chanolig, entrepreneuriaid, ymgynghorwyr, cludwyr, gan enwi dim ond ychydig. Eleni, ymfalchïodd yr Arddangosfa am gael dros 60 o arddangoswyr a dros 800 o gynrychiolwyr yn ymweld âr stondinau yn ystod y dydd. Un or arddangoswyr sy’n ôl am y drydedd flwyddyn yw Natalie Wood, Rheolwr Gyfarwyddwr Letterbox Recruiting, a adleisiodd lawer o safbwyntiau’r arddangoswyr drwy ddweud: “Gan fod gennym swyddfeydd ar draws Gogledd Cymru, mae digwyddiadau fel hyn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer rhwydweithio gyda chwmnïau eraill a gwneud cysylltiadau newydd. Mae busnes yn bendant yn ffynnu ac rydym yn awyddus iawn i wneud busnes gyda chwmnïau lleol eraill ac i gadw talent leol yn yr ardal.” Y diwrnod canlynol, aeth cannoedd o bobl i Ddigwyddiad Cyflogaeth a Gwybodaeth yn Neuadd Ddinesig Cei Connah. Roedd modd i gyflogwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys Ralawise, Lend Lease, Kingswood a grwp bwyd 2 Sisters arddangos eu busnesau ac roedd modd i geiswyr gwaith ddod o hyd ir llwybr ar cymwysterau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus yn y meysydd hyn. Roedd asiantaethau recriwtio gan gynnwys Blue Arrow, Travail ac Enbarr Enterprises hefyd yn hysbysebu eu swyddi gwag presennol a swyddi gwag sydd i ddod. Roedd dros 300 o swyddi gwag ar gael gydag ymgeiswyr yn manteisio ar y gefnogaeth ar y dydd i lenwi ffurflenni cais, a chafodd nifer o gyfweliadau eu trefnu ar y diwrnod. Roedd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf yn bresennol i hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheiny sydd eisiau cychwyn eu busnes eu hunain. Roedd Gyrfa Cymru wrth law i gynnig cymorth a chyngor wedii deilwra yn ymwneud â sgiliau cyfweliad ac argraffiadau cyntaf. Trefnwyd y digwyddiad gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Bu Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint hefyd yn arddangos eu gwaith ynghyd â rhaglen Esgyn a Chymunedau ar gyfer Gwaith, a ddatblygwyd i helpu i gael gwaith i’r di-waith hirdymor. Daeth llawer i’r digwyddiad y noson honno, a oedd yn canolbwyntio ar swyddi a phrentisiaethau rhanbarthol, gydar prif siaradwr Iwan Thomas, Rheolwr Rhaglen Rhanbarthol ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Siaradodd am ddull Tîm Gogledd Cymru y Bwrdd. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i ranbarth Gogledd Cymru i gyd, cyn ei lansiad swyddogol y bore canlynol yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd yr adroddiad hwn yn bwydo i mewn i Lywodraeth Cymru wrth iddynt benderfynu ar y cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru yn y dyfodol. Y siaradwyr eraill oedd Ian Budd, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, a siaradodd am sut mae ysgolion yn Sir y Fflint yn moderneiddio ac yn gweithio gyda busnesau i baratoi’r gweithlu gorau ar gyfer y dyfodol. Siaradodd Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter, a Vicky Barwis, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig Ar Waith a Menter Cyflogwyr Coleg Cambria, am y pwysigrwydd y mae Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria yn ei roi ar brentisiaethau a sut maent yn gweithio gyda busnesau lleol ac mewn partneriaeth i annog pobl yn yr ardal leol i fanteisio ar brentisiaethau a’u datblygu. Maer pwyslais ar gadw sgiliau lleol yn yr ardal leol. Ar nos Iau, cafwyd amrywiaeth o gyflwyniadau ar y pwnc Economi ac Uchelgais. Roedd y cyntaf yn canolbwyntio ar uchelgeisiau ar gyfer Twf Economaidd Rhanbarthol gan Gynghrair Merswy a Dyfrdwy a Chyngor Sir y Fflint. Mae Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yn bartneriaeth rhwng cynghorau Cilgwri, Sir y Fflint, Wrecsam a Gorllewin Swydd Caer a Chaer, Mersey Travel a’r colegau Addysg Bellach ac Addysg Uwch a’r sector preifat. Ei brif nod yw tyfu’r economi. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys cryfderau economaidd allweddol, sialensiau twf a sut yr eir i’r afael â hwy, yn ogystal ag anghenion sgiliau. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd, sydd hefyd yn Gadeirydd ar Gynghrair Merswy a Dyfrdwy: “Mae Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yn unigryw - dymar unig gynghrair trawsffiniol ac mae iddo economi bywiog ar draws pob sector. Rydym yn ymgyrchu ar gyfer gwell seilwaith gyda Rail Track 360 a dau gynnig am dwf yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer, ac rydym yn edrych tuag at gael mwy o gysylltedd o ran cyfleoedd addysg a chyflogaeth.” Arweiniodd hyn at yr ail siaradwr, Paul Hildreth Bartlett o Goleg Prifysgol Llundain, a siaradodd am economi trawsffiniol a chanlyniadau ei ymchwil ar economi Merswy a Dyfrdwy. Yna, siaradodd Cyngor Sir y Fflint am y pwysigrwydd y maen ei roi ar fod yn gyngor syn galluogi twf economaidd mewn amgylchedd heriol i lywodraeth leol Yn olaf, cyflwynodd Steve Hicks o Fanc Lloegr farn y banc am yr Economi Genedlaethol, gan gynnwys y rhagolwg i dwf economaidd y DU, perfformiad y farchnad lafur a disgwyliadau o ran prisiau. I gloi wythnos gyffrous o ddigwyddiadau oedd y Digwyddiad Rhwydwaith Twristiaeth ddydd Gwener 30 Medi yn Danger point, Talacre. Darparodd y digwyddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y sector twristiaeth fel cyfres o gyflwyniadau 5 munud gan sefydliadau a phartneriaethau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys: · Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy · Cymdeithas Dwristiaeth Sir y Fflint · Cynllun Llysgenhadon Gogledd Ddwyrain Cymru · Theatr Clwyd · Band Eang Cyflym Iawn Cymru Daeth y digwyddiad i uchafbwynt gyda gweithdy i edrych ar effaith y cyfryngau cymdeithasol ar dwristiaeth, ennyn diddordeb brandiau a chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint unwaith eto wedi dod â channoedd o fusnesau ynghyd mewn partneriaeth unigryw a llwyddiannus rhwng y sector cyhoeddus ar sector preifat. Rydym wedi cael digwyddiadau a seminarau gwych. Ar ran y Cyngor, rydw i eisiau diolch yn ddiffuant in holl noddwyr ac i’n partneriaid syn gweithio mor galed gyda thîm busnes y Cyngor i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.