Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Holiadur i Asesu a Oes Digon o Ofal Plant yn Sir y Fflint 2017-2021

Published: 05/10/2016

Beth yw’r holiadur hwn i asesu a oes digon o ofal plant yn Sir y Fflint? Bob pum mlynedd, rhaid i Gyngor Sir y Fflint gwblhau darn o waith i ‘asesu a oes digon o ofal plant yn y sir.’ Mae hyn yn golygu: Bod gwybodaeth yn cael ei chasglu i ddangos: • Ble mae plant yn byw yn Sir y Fflint • Pa ofal plant sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn yn Sir y Fflint • Faint o blant sydd yn y llefydd gofal plant hyn • Faint o lefydd sydd heb eu llenwi • Ble mae’r bylchau • Beth mae rhieni’n ei feddwl • A yw’r gofal plant yn diwallu anghenion rhieni • Beth sy’n rhwystro rhieni rhag defnyddio gofal plant • Sut y gellid gwell gofal plant yn Sir y Fflint Dyma’ch cyfle chi i helpu! Dyma sut y medrwch chi helpu. Mae’r holiadur a ganlyn wedi’i baratoi i gael ateb i’r cwestiynau hyn a gweld beth rydych chi, fel rhieni / gotalwyr, yn ei feddwl! A fyddech cystal â threulio munud neu ddau yn ateb rhai o’r cwestiynau am eich gofal plant neu am y rheswm pam nad ydych yn defnyddio gofal plant. Yna gallwn adeiladu darlun o anghenion a barn rhieni / gofalwyr ledled Sir y Fflint. Po fwyaf o ymatebion a gawn po fwyaf o siawns sydd gennym o greu darlun cywir! Gallwch lenwi’r holiadur ar-lein ar: https://www.surveymonkey.co.uk/r/FISParentalSurvey Os hoffech holiadur ar fformat arall neu os hoffech drafod eich atebion ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01352 703500. Treuliwch funud o ddau i lenwi’r holiadur.