Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parcio o gwmpas ysgolion

Published: 11/10/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymchwilio i fesurau i wella diogelwch defnyddwyr y ffyrdd yn yr ardaloedd o gwmpas ysgolion, yn enwedig lle mae pryderon ynghylch diogelwch yn cael eu creu gan gerbydau wedi parcio. Maer mesurau yn dod fel rhan o ymrwymiad yr awdurdod i wella diogelwch defnyddwyr ffyrdd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint. Maer Cyngor yn bwriadu cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am gyllid i gefnogi mesurau diogelwch ar y ffyrdd peilot y tu allan i nifer o ysgolion yn y Sir yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Diogelwch ar y Ffyrdd tu allan i ysgolion yw un on blaenoriaethau allweddol a bydd y cynigion hyn yn helpu i sicrhau diogelwch plant ysgol yn y sir, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad llwyddiannus ir cais.”