Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 13/10/2016

Bydd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2015-16 yn cael ei drafod mewn cyfarfod Cabinet ddydd Mawrth 18 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor. Mae’r adroddiad yn adlewyrchur cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2015/16, ac maen crynhoi cyflawniadaur sefydliad. Mae Sir y Fflint yn parhau i fod yn Gyngor sy’n cael ei lywodraethun dda ac yn perfformion uchel. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol. Nodir rhai o’r llwyddiannau isod: · Gweithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai lleol i ddatblygu cynlluniau gofal ychwanegol ledled y sir – Llys Jasmine yn y Wyddgrug, Llys Raddington a thrydydd un yn Nhreffynnon. · Lleihau rhestrau aros ar gyfer therapi galwedigaethol gyda thros 90 y cant o bobl yn teimlo bod “eu hanghenion wedi’u diwallu’n llawn”. · Y gyfradd boddhad cyffredinol uchaf am addysg gan Awdurdod Lleol (Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru). · Sefydlu cwmni rheoli eiddo or enw Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru er mwyn ariannu datblygu mwy o dai fforddiadwy. · Cyd-leoli’r tîm cyntaf erioed o Weithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol a Nyrsys Ardal yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon. · Creu Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd er mwyn cynorthwyo’r teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed. · Cyd-ariannu ac adeiladu Campws Dysgu Treffynnon a’r ganolfan Ôl-16 yng Ngholeg Cambria. · 99.6% o bobl 16 oed mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant (y nifer uchaf a gyrhaeddwyd erioed) ar ddiwedd 2014. · Creu 1,012 o swyddi newydd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn 2015/16 ac 838 yn 2013/14. · Cyflawni statws ‘cyfeillgar i ddementia’ mewn tair tref – y Fflint, Bwcle a’r Wyddgrug. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Mae’r Cyngor yn parhau i berfformion arbennig o dda yn erbyn ei amcanion, gan wneud cynnydd da neu foddhaol ym mhob un ohonynt. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Maer Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad syn perfformion dda, gan osod targedau a chyrraedd y blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gwella. Mae hyn wedi’i atgyfnerthu gan sylwadau’r Archwilydd Cyffredinol a ddywedodd fod y Cyngor wedi parhau i wella ei berfformiad, yn wyneb pwysau ariannol cynyddol.” Mae’n rhaid cyhoeddi’r Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod Cyngor y Sir ar 19 Hydref bydd gofyn i’r cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad i gael ei gyhoeddi.