Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Published: 13/10/2016

Mae angen i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb pob 4 blynedd. Yn ei gyfarfod nesaf, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno ar ail Gynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) y Cyngor cyn ei gyhoeddi. Yn 2012, cytunodd y Cyngor ar ei CCS cyntaf, ac fe osodwyd 6 amcan lefel uchel fel a ganlyn: • Lleihau anghydraddoldebau iechyd • Lleihau canlyniadau anghyfartal mewn addysg er mwyn gwneud y gorau o botensial unigolion • Lleihau anghydraddoldeb o ran cyflogaeth • Lleihau anghydraddoldeb o ran diogelwch personol • Lleihau anghydraddoldeb o ran cynrychiolaeth a llais • Lleihau anghydraddoldeb o ran cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau, adeiladau ar amgylchedd. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn falch o gyhoeddir cynllun hwn syn rhoi manylion am yr amcanion, y camau gweithredu ar targedau y byddwn yn ymgymryd â nhw yn ystod y pedair blynedd nesaf ac sy’n nodir dystiolaeth ar resymeg y maer amcanion wedi’i seilio arnynt. Cytunwyd y dylid cadw’r un amcanion â’r rhai a sefydlwyd yn 2012. Mae llawer o waith i’w wneud eto. Nid oes modd lleihau anghydraddoldeb sydd wedi gwreiddio’n ddwfn mewn cyfnod byr ac maen rhaid parhau er mwyn sicrhau ein bod yn gweld canlyniadau dros gyfnod hwy. Dyma oedd barn y rhanddeiliaid allweddol wrth i ni ymgynghori â nhw.” Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â’r holl gyrff cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru ac rydym yn falch bod aelodaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus gwreiddiol Gogledd Cymru wedi tyfu ac yn cynnwys Coleg Cambria a Phrifysgol Glyndwr. Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig yn y cyfnod ariannol anodd hwn, ond mae hefyd yn helpu i nodi amcanion cydraddoldeb cyffredin.”