Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn cefnogi codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb

Published: 14/10/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer “Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb” a gynhelir o 8 i 15 Hydref. Roedd swyddogion y Cyngor yng Ngholeg Cambria yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i adrodd am droseddau casineb. Roeddent hefyd yn hyrwyddo’r gwasanaethau cymorth ac adnoddau sydd ar gael yn lleol. Trosedd casineb yw trosedd yn erbyn unigolyn neu grwp o bobl ar sail eu hunaniaeth neu eu gwahaniaeth canfyddiedig. Gall fod yn weithred o drosedd, gelyniaeth neu wahaniaethu. Efallai y bydd dioddefwyr wedi cael eu bwlio, eu haflonyddu neu eu cam-drin oherwydd pwy ydynt, eu rhywioldeb, eu rhyw, crefydd, ethnigrwydd neu ddewis ffordd o fyw. Gall y drosedd fod ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Derbynnir yn gyffredinol nad oes digon o adrodd am achosion o droseddau casineb a gall gael effaith sylweddol ar ei ddioddefwyr, a ni ddylent orfod dioddef yn dawel. Er bod lefelau troseddau casineb yn eithaf isel yn y sir, rwyn falch o weld ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i godi proffil y mater pwysig a pherthnasol hwn. “Yn ôl gwybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru, dros y 12 mis diwethaf, mae 30 o ddigwyddiadau wedi’u hadrodd a 26 yn y 12 mis blaenorol. Rydym yn gwybod nad yw pob achos yn cael ei adrodd, ac felly dyna pam fod angen i ni godi hyder i adrodd amdanynt. Fel aelodau gweithgar o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gydar Heddlu, y Bwrdd Iechyd, y Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaeth Tân a sefydliadau’r sector gwirfoddol, mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o droseddau o’r fath, ac i hyrwyddo mwy i adrodd am yr achosion. Mae’r Cyngor hefyd yn cydymffurfio â ‘Fframwaith Gweithredu- Mynd i’r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb’ Llywodraeth Cymru, sy’n amlinellu eu strategaeth i fynd i’r afael â Throseddau Casineb yng Nghymru. Dylid rhoi gwybod am achosion o Drosedd Casineb drwy ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 mewn achos o argyfwng) neu system adrodd Cymorth i Ddioddefwyr drwy ffonio eu llinell gymorth 24 awr am ddim ar 0300 30 31 982 neu ar-lein www.reporthate.victimsupport.org.uk Mae Cymorth i Ddioddefwyr hefyd yn darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer rhai sy’n dioddef trosedd casineb. Or chwith ir dde: PC Gary Robertshaw, Gerwyn Davies CSFf, Greg George- HGC, Christine Dykins CSFf, Cyng Kevin Jones, Tom Williams CSFf, Sian Jones CSFf, Mandy Burrows CBSW, PCSO Dan Kelly.