Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datblygiad tai newydd yn gweithio gyda busnesau lleol

Published: 14/10/2016

Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau bach lleol yn y sir. Mae’r rhaglen yn adeiladu tai cyngor a thai fforddiadwy newydd ar draws Sir y Fflint. Mae’r contractwr a benodwyd gan y Cyngor, Wates Living Space, yn cynnal digwyddiad fydd yn darparu cyfle i fusnesau bach lleol ganfod mwy am y datblygiadau tai newydd hyn gyda’r nod o gael eu cyflogi fel isgontractwyr. Mae croeso i’r holl fusnesau bach lleol sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu ac sydd wedi’u lleoli yn Sir y Fflint ymweld â Swyddfa Safle Wates yn y Walks (oddi ar Ffordd Caer), y Fflint ddydd Llun 24 Hydref 2016 rhwng 9am a 6pm i gael rhagor o wybodaeth. Estynnir gwahoddiad i’r holl feysydd adeiladu gan gynnwys penseiri, peintwyr ac addurnwyr, tirlunwyr, gosodwyr brics a chontractwyr eraill. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae nifer o fusnesau lleol wedi elwa o weithio gyda ni eisoes, o ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Mae cam nesaf ein rhaglen SHARP yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol eraill gymryd mantais o hyn, waeth pa mor fawr ydyn nhw. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: “Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy o ansawdd, rydym yn awyddus i gynhyrchu cyfleoedd cyflogaeth drwy ddefnyddio busnesau lleol fel rhan o gam adeiladu’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y diwydiant adeiladu i fynychu’r digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i weld sut y gallant gyfranogi.