Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol

Published: 14/10/2016

Mae gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol yn parhau i fod o dan fygythiad oherwydd y gostyngiadau mawr mewn gwariant cyhoeddus. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgysylltu cyhoeddus ynglyn âr dyfodol. Yn y cyfarfodydd hyn, byddwn yn rhannu ein sefyllfa, yn egluro ein cynllun ac yn gofyn am eich cefnogaeth. Mae Sir y Fflint wedi addasu, moderneiddio a newid i ymdopi â blynyddoedd olynol o ostyngiadau mawr yn ei gyllidebau. Er gwaethaf yr heriau o orfod gwneud mwy gyda llai, mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn cadw eu huchelgeisiau o gael sir a rhanbarth blaengar a llewyrchus wedi’u cefnogi gan wasanaethau cyhoeddus o safon uchel. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn un or Cynghorau sy’n cael y lleiaf o arian yng Nghymru ac mae’r lefel ariannu isel hwn ar y cyd ag effeithiau parhaus agenda caledi’r DU yn ein gwneud yn agored i lefelau o bwysau ariannol hynod o uchel. “Dros y 4 blynedd diwethaf, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol wrth dderbyn toriadau cyllidebol drwy gynllunio gofalus, bod yn effeithlon, canfod datrysiadau arloesol a lleihau costau swyddfa gefn i ddiogelu gwasanaethaur rheng flaen. Mae’r Cyngor wedi cyrraedd ‘trobwynt’ yn awr lle y bydd gwasanaethau yn wynebu toriadau mawr os na chawn rywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru.” Rydym yn eich gwahodd i fynychu un o saith o ddigwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus a gynhelir mewn lleoliadau ledled y Sir gan ddechrau ar 1 Tachwedd. Bydd y digwyddiadau o 6:30pm tan 8:30pm yn y mannau canlynol: Mae’r niferoedd yn gyfyngedig i 200 ym mhob lleoliad: 1 Tachwedd: Ysgol Mountain Lane, Bwcle 7 Tachwedd: Ysgol Gwynedd, y Fflint 8 Tachwedd: Ysgol Bryn Coch, yr Wyddgrug 10 Tachwedd: Ysgol Maes y Felin, Treffynnon 14 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Sandycroft 15 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Brychdyn 21 Tachwedd: Ysgol Caer Nant, Cei Connah Gallwch gofrestru ar-lein ar www.siryfflint.gov.uk/ECEG neu drwy ffonio ein llinell gofrestru ar 01352 701701 rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.