Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth o Atal Caethwasiaeth

Published: 20/10/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi nodi Diwrnod Atal Caethwasiaeth 2016 mewn cyfarfod diweddar y Cyngor. Gwnaeth y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, y ddau yn aelodaur Panel Diogelu Corfforaethol, ddarllen datganiad ar y cyd yn ystod y cyfarfod or Cyngor Llawn ar 19 Hydref i godi ymwybyddiaeth o faterion caethwasiaeth a cham-fanteisio yn y byd modern. Mae dydd Mawrth 18 Hydref yn Ddiwrnod Atal Caethwasiaeth. Maer dyddiad hwn yn cyd-daro â 10fed Diwrnod Gwrth-Fasnachu yr Undeb Ewropeaidd. Maer datganiad yn darllen: “Maen destun pryder mawr ir Cyngor hwn, er gwaethaf diddymur fasnach mewn caethweision dros yr Iwerydd dros 200 mlynedd yn ôl, fod caethwasiaeth modern yn dal i fodoli yn y DU, a thramor, heddiw. Mae masnachu mewn pobl a cham-fanteisio yn fater pwysig, gyda phlant, menywod a dynion yn dioddef cam-drin ofnadwy. Maer Cyngor yn annog preswylwyr Sir y Fflint a thu hwnt i fod yn rhagweithiol yn ein brwydr yn ei erbyn, gan fod hwn yn fater syn peri pryder i ni i gyd.” Crëwyd Diwrnod Atal Caethwasiaeth i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern ac i ysbrydolir llywodraeth, busnesau ac unigolion i’w ddileu. Gellir cael mwy o wybodaeth ar wefannau hyn. www.antislaveryday.com http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/safety/anti-slavery/? skip=1&lang=cy