Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lles dros yr Haf

Published: 18/06/2014

Mae Lles dros yr Haf yn gyfres o weithdai a chyrsiau a gynllunnir i hyrwyddo dulliau o ymlacio i drigolion Sir y Fflint yn ystod mis Mehefin. Mwynhewch sesiwn bowlio deg yn rhad ac am ddim, dysgwch sut i ddawnsio, datglowch eich creadigrwydd gyda dosbarth paentio neu cymerwch ran mewn celf a chrefft, mae rhywbeth wedi’i gynnig i bawb y mis hwn. Archebwch le ar unrhyw un or sesiynau isod drwy ffonio 01352 704400 neu 01352 704406. Maer gweithgareddau’n cael eu trefnu ar y cyd gan adain Llyfrgelloedd, Celfyddydau a Hamdden Cyngor Sir y Fflint. Dydd Llun 23 Mehefin Bwrlwm bowlio - o 10am – 12pm ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint. Bowlio Deg am ddim - dwy gêm y pen - archebwch yn gynnar gan fod y niferoedd yn gyfyngedig. Dydd Mawrth 24 Mehefin Darllen, Gwrando ac Ymlacio - o 1pm – 2pm yn Llyfrgell Bwcle. Storïau wedi’u hadrodd au rhannu gan yr awdures Fiona Collins. Stori Lliw – o 1pm - 5pm yn Llyfrgell y Fflint. Archwiliwch y defnydd o liw wrth beintio a datglowch eich creadigrwydd gydar arlunydd Jan Gardner. Dawnsio’n Donig - o 10:30am - 12:30pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Sesiwn i’ch gwneud yn sionc - mewn cydweithrediad â NEW Dance. Dydd Mercher 25 Mehefin Therapi Tai Chi o 1pm – 1.45pm yn Llyfrgell Treffynnon. Symud ar gyfer lles pob oedran a gallu gyda SIFU Peter Newton Dydd Iau 26 Mehefin Canu, Sigl a Sgonsen 1pm – 4pm yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon. Adloniant gan Gordon Hopwood. Lluniaeth wedi’i gynnwys. Dydd Gwener 27 Mehefin Diwrnod Rhowch Gynnig Arni o 10.30am – 1pm a 2pm – 4pm yn Llyfrgell Treffynnon. Rhowch gynnig ar amrywiaeth o bethau o argraffu bloc i wneud les. Dydd Llun 30 Mehefin Pwyth mewn Pryd o 1pm – 6pm yn Llyfrgell yr Wyddgrug. Tecstilau a thechnegau gydar arlunydd Cefyn Burgess. Ymlaciwch a Dadflinwch - *Cynnig Arbennig gan Afonspa yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Difethwch eich hun gyda sesiwn sba am £5 yn unig fesul person fesul sesiwn. Mynd am dro yn yr haf neu Gerdded a Siarad ... Teithiau cerdded iechyd 30 munud am ddim o bob Canolfan Hamdden yn ystod mis Mehefin.