Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant Caledi i Denantiaid ar gyfer tenantiaid yn y sector rhentu preifat

Published: 02/08/2021

Mae’r Grant Caledi i Denantiaid yn grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi tenantiaid sydd wedi mynd i ôl-ddyledion rhent o ganlyniad i golli incwm yn sgil COVID-19.

Mae’r grant hwn ar gyfer tenantiaid y sector preifat sydd ag ôl-ddyledion rhent yn ystod y cyfnod cymwys o ganlyniad i COVID-19.

I wneud cais am Grant Caledi i Denantiaid, mae'n rhaid eich bod wedi dioddef caledi ariannol oherwydd pandemig COVID-19, ac nad ydych wedi gallu talu eich rhent o ganlyniad i hynny.

Ni fyddwch yn gallu cael Grant Caledi i Denantiaid os nad ydych wedi profi caledi ariannol yn ystod pandemig COVID-19, ac yn fwriadol heb dalu eich rhent i'ch landlord neu i’ch asiant. 

I ymgeisio, bydd angen ichi lenwi ffurflen gais a rhoi tystiolaeth briodol i helpu Cyngor Sir y Fflint i wneud penderfyniad ynghylch p’un ai i roi grant i chi.

Byddai’n ddefnyddiol hysbysu eich landlord neu asiant eich bod yn gwneud cais am grant, gan y bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cysylltu â’r landlord neu asiant er mwyn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau eich bod yn denant a bod gennych ôl-ddyledion rhent, a faint yw’r ôl-ddyledion hynny.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Mae'r cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau yma.