Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy 2021

Published: 13/09/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi addo i gefnogi’r Wythnos Diogelwch Nwy (13 – 19 Medi 21) i godi ymwybyddiaeth pobl o bwysigrwydd diogelwch nwy. 

Wrth i ni ddathlu'r unfed ar ddeg Wythnos Diogelwch Nwy, mae sefydliadau ar draws y DU yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth pobl o berygl offer nwy heb ei gynnal a’i gadw’n iawn sy’n gallu achosi gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyniad carbon monocsid. 

Eleni mae’r Wythnos Diogelwch Nwy yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion diogelwch nwy i ddefnyddwyr nwy ar hyd y wlad - o gyngor ar sut i gadw’n ddiogel o ran nwy i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio peiriannydd cofrestredig sy’n gyfreithiol gymwys, i sicrhau nad ydych yn dioddef effeithiau gwaith nwy anghyfreithlon trwy ddiffyg ymwybyddiaeth. 

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint: 

"Diogelu cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth. Mae gan y Cyngor enw da am ddiogelwch nwy a drwy weithio gyda chwsmeriaid a chymunedau i dderbyn mynediad i wirio a gwasanaethu offer nwy, byddwn yn parhau i ddiogelu iechyd a diogelwch cwsmeriaid a sicrhau bod gan bawb fynediad i offer nwy diogel ac effeithlon sy'n gweithio'n iawn." 

Meddai Jonathan Samuel, Prif Weithredwr Cofrestr Diogelwch Nwy: "Mae’n braf gweld cymaint o bobl yn cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy eleni i’n helpu ni rannu cyngor pwysig a all achub bywydau. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu pwysigrwydd helpu a chefnogi’r rhai yn ein cymunedau.  Mae sicrhau bod pobl bob amser yn defnyddio peiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy i weithio ar offer nwy yn eu cartrefi yn ffordd wych o ddangos sut y gallwn gydweithio i aros yn ddiogel.” 

I ddiogelu eich hun a’ch teulu, dyma awgrymiadau defnyddiol gan y Gofrestr Diogelwch Nwy:

• Gwnewch yn siwr eich bod chi’n gwybod beth yw symptomau gwenwyniad carbon monocsid - cur pen, cyfog, diffyg anadl, llewyg, pendro a cholli ymwybyddiaeth.

  • Os ydych chi’n arogli nwy neu’n meddwl bod yna nwy yn colli, ffoniwch y rhif argyfwng nwy cenedlaethol 24 awr sy’n rhad ac am ddim ar unwaith ar 0800 111 999.
  • Peidiwch â cheisio gweithio ar offer nwy eich hunain, gofynnwch am help peiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig sy’n gallu edrych ar boptai, boeleri a thannau nwy yn ddiogel.
  • Peidiwch â thorri corneli - cofiwch gyflogi peiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig pan fydd angen gwneud gwaith nwy yn eich cartref.
  • Gofynnwch am gael gweld cerdyn adnabod eich peiriannydd Diogelwch Nwy. Gwnewch yn siwr eich bod chi hefyd yn gwirio cefn y cerdyn, a fydd yn nodi pa offer y mae’r peiriannydd yn gymwys i weithio arno.

Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw’r gofrestr genedlaethol ar gyfer peirianwyr cyfreithiol gymwys. Gallwch ganfod peirianwyr cofrestredig yn eich ardal chi drwy fynd i wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy : GasSafeRegister.co.uk.

Gallwch gael gwybodaeth a chyngor gan y Gofrestr Diogelwch Nwy drwy gydol Wythnos Diogelwch Nwy drwy ddilyn @GasSafetyWeek ar Facebook, Twitter ac Instagram a chwilio am #GSW21 a #WythnosDiogelwchNwy / #GasSafetyWeek.