Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn dal i fwynhau haf llawn hwyl

Published: 10/08/2021

AdobeStock_children runningsmall.jpgMae cynlluniau chwarae’r haf yn Sir y Fflint yn eu hanterth!

Dechreuodd y cynlluniau chwarae (yn Gymraeg a Saesneg) ledled y sir ddydd Llun 19 Gorffennaf a hyd yn hyn eleni mae Tîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint wedi darparu 825 o sesiynau chwarae, sy’n gyfwerth â 1,650 o oriau o chwarae i 2,500 o blant 5-12 oed hapus iawn.

Fel yn y blynyddoedd diweddar mae Cynllun Cyfeillio Sir y Fflint wedi cefnogi 36 o blant a phobl ifanc ag anableddau i fynychu eu cynlluniau chwarae lleol. 

Mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim ac mae dulliau rheoli Covid-19 ar waith ar bob safle.

Er bod rhai sesiynau wedi dod i ben ar ôl tair wythnos, mae llawer o rai eraill yn parhau am 4, 5 a 6 o wythnosau – holwch i weld a oes cynllun chwarae’n agos atoch chi!  Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer pob safle ac ni dderbynnir mwy na 30 o blant ymhob sesiwn.  

Mae’r holl wybodaeth a ffurflenni caniatâd rhiant/gofalwyr ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint: Cynlluniau Chwarae’r Haf.  Gallwch gael cymorth i lenwi’r ffurflenni drwy gysylltu â’r Tîm Datblygu Chwarae.

Darperir y cynlluniau gan Dîm Datblygu Chwarae’r Cyngor mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned, Gwasanaeth Anableddau Teuluoedd Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.  Diolch o galon i’n holl bartneriaid – ni fyddai modd cynnal y cynlluniau chwarae hyn heb eu cefnogaeth a’u cymorth.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:

Janet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint

Rhif ffôn: 07518 602614    e-bost: Janet.Roberts2@flintshire.gov.uk